Mae’n cael ei ddarparu gan dîm o entrepreneuriaid profiadol iawn sydd ag enw am gyflawni twf uchel, yn seiliedig ar yr egwyddor mai’r bobl orau i gynghori entrepreneuriaid yw entrepreneuriaid.
Anelir y rhaglen at fusnesau twf uchel sy’n awyddus i symud ymlaen i'w cam twf nesaf ac sy’n meddu ar y potensial a’r penderfyniad i’w gyrraedd.
A oes gennych chi un o'r problemau busnes hyn?
- Dysgwch sut mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn helpu arweinwyr busnes yng Nghymru i gymryd y cam a llwyddo i ehangu'n gyflym. Rydych yn ymrwymedig i dyfu eich busnes yn fwyfwy cyflym ond mae angen cymorth arbenigol arnoch er mwyn lleihau'r risgiau a goresgyn rhwystrau.
- Rydych yn ymrwymedig i dyfu eich busnes yn fwyfwy cyflym ond mae angen cymorth arbenigol arnoch er mwyn lleihau'r risgiau a goresgyn rhwystrau.
- Rydych yn derbyn na fydd y tîm, o reidrwydd, yn sicrhau llwyddiant i chi.
Y Rhaglen Sbarduno i Entrepreneuriad Rhagoriaeth
Rydym wedi lansio rhaglen rithwir rymus, 6 wythnos o hyd, i entrepreneuriaid yng Nghymru fynd â'u busnes i'r lefel nesaf.
Mae'r cyfle unigryw hwn yn agored i unrhyw un sydd wedi graddio o fewn y pum mlynedd diwethaf ac sydd â busnes yng Nghymru sy’n awyddus i dyfu. Bydd yn gyfuniad o dros 21 awr o hyfforddi gweithredol, atebolrwydd meistrolgar cymar i gymar, arbenigwyr arbenigol, gweithdai a phanel o arweinwyr busnes, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid a fydd yn cynnig cyngor ac yn gosod her 6 wythnos i ysgogi twf busnes. Ceir rhagor o wybodaeth yma.