Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen sy’n helpu busnesau i baratoi ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol
Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ail gam ei rhaglen arloesi lwyddiannus, SMART Productivity, sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Wedi’i lansio’n wreiddiol yn 2015, nod cynllun SMART Productivity, sy’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yw helpu busnesau i gynyddu cynhyrchiant, gwella cynllun y cynnyrch a sicrhau eu bod wedi’u diogelu i’r dyfodol. Roedd y cymorth gwreiddiol, a ddarparwyd gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, yn talu am dridiau o gymorth ymgynghori...