Cymorth i Brosiectau Arloesi ar gyfer Ymladd COVID-19
Gall y cynllun Cymorth i Brosiectau Arloesi ar gyfer Ymladd COVID-19 gael ei ddefnyddio i gyllido’r canlynol: Prynu cyfarpar penodol Addasiadau i brosesau presennol Gweithredu prosesau newydd Gallai’r cymorth gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu dyfeisiau meddygol, Cyfarpar Diogelu Personol a chyflenwi cynhyrchion diheintio. Mae ffurflen gais syml a hefyd proses arfarnu gyflym a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i’r prosiectau hyn ddechrau gwneud gwahaniaeth ar unwaith.