man at desk

A yw fy musnes yn gymwys?


Mae cymorth gan raglen Arloesedd SMART a ariennir gan yr UE ar gael i fusnesau cymwys yng Nghymru sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gwasanaethau gweithgynhyrchu cyffredinol, peirianneg, ynni, TGCh, digidol, electroneg, meddygol/gofal iechyd, adeiladu ac ariannol. 

Darllenwch ein meini prawf isod i weld a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan Arloesedd SMART.
 

  • Mae’r rhan fwyaf o sectorau yn gymwys i gael cymorth gan Arloesedd SMART, ond ceir rhai cyfyngiadau. Cysylltwch â ni isod i gael trafodaeth gychwynnol am gymhwysedd.
  • Busnesau bach a chanolig sy’n cyflogi 10 o weithwyr neu fwy. 
    Os oes gennych chi lai na 10 gweithiwr cyflogedig, ond gallwch ddangos potensial ar gyfer twf, ffoniwch ni.

    Sylwer: Nid yw unigolion neu fusnesau sydd wedi dechrau masnachu’n ddiweddar yn gymwys ar gyfer rhaglen SMART Innovation. Fodd bynnag, mae Busnes Cymru’n cynnig amrywiaeth o gyngor a allai fod yn fwy addas ar eich cyfer chi/eich busnes. Cliciwch yma i drefnu galwad gyda chynghorydd busnes i ddysgu mwy.
  • Os ydych chi’n credu bod eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan Arloesedd SMART, y cam cyntaf yw ffonio Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu gysylltu â ni yma. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
  • Fel arfer, o fewn 24 awr, bydd aelod o dîm Arloesedd SMART yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth am eich busnes, trafod eich anghenion ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael i chi. 

Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi ffonio Busnes Cymru, dilynwch daith cwsmer Arloesedd SMART isod.