Arloesi
Gall arloesi helpu’ch busnes i fod yn fwy cystadleuol, i gynyddu’i werthiant ac i gipio marchnadoedd newydd. Diben y Parth Arloesi yw rhoi gwybod ichi am y cymorth a’r arian sydd ar gael i’ch helpu i arloesi.
Gallwn eich helpu chi i:
- fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D)
- cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ar gyfer dylunio a chynhyrchu
- amddiffyn eich asedau trwy hawliau eiddo deallusol (IP)
- defnyddio cyfleusterau ac arbenigeddau prifysgolion a cholegau
I ddysgu mwy, edrychwch ar y tabiau perthnasol a ffoniwch ni ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rydym yn cynnig cyngor i fusnesau yng Nghymru, yn unol â rhai meini prawf.