man working

Beth yw Arloesedd SMART?

Mae Arloesedd SMART yn rhaglen a gyflwynir gan arbenigwyr fel peirianwyr, gwyddonwyr, diwydianwyr ac arbenigwyr eiddo deallusol – sydd i gyd yn gweithio tuag at un nod – sef helpu busnesau yng Nghymru i ffynnu.

Nid archarwyr mewn gwisgoedd arbennig ydynt (er y gallai rhai wisgo cotiau gwyn), ond mae ganddynt filoedd o oriau o brofiad mewn diwydiant rhyngddynt sy’n golygu eu bod yn gwybod ambell beth am helpu busnesau i arloesi er mwyn llwyddo. Maen nhw hefyd yn canolbwyntio eu hymdrechion fwyfwy ar gynorthwyo busnesau i symud tuag at ddatgarboneiddio yn rhan o ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i fyd gwaith gwyrddach.

I grynhoi, mae ein tîm yn canolbwyntio ar dair elfen:

  1. Arbenigedd – rydym yn gweithio ar lawr gwlad yng Nghymru ond mae rhwydwaith o arbenigwyr ar gael i ni ledled y Deyrnas Unedig.
  2. Arian – diwedd y gân yw’r geiniog, felly gallwn eich helpu i gael cymorth ariannol.
  3. Cymorth – gwasanaeth ymgynghori gweithgynhyrchu a dylunio gan fframwaith cymeradwy o gynghorwyr sector preifat.


A dyma’r tair elfen sy’n ganolog i’n llwyddiant ni a’ch llwyddiant chi, oherwydd un peth rydym wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd yw nad yw unrhyw fusnes yn gweithredu ar ei ben ei hun. Trwy gysylltu ag eraill a dysgu ganddynt, byddwch yn datguddio cyfleoedd, yn cychwyn prosesau ac yn cyflymu twf.

Felly, gadewch i ni ddechrau arni… 

“Mae ein proses awtomataidd newydd wedi ein galluogi i ddigideiddio ein patrymau, ac mae hynny wedi cynyddu effeithlonrwydd y broses weithgynhyrchu 12%.”
Ruth Lee, Corwen

.

Cyflwyno arbenigwyr Arloesedd SMART

Mae gan Ann brofiad sylweddol o reoli technegol a rheoli prosiectau cynhyrchion newydd o’r cysyniad hyd at fasnacheiddio, yn ogystal â chwmpasu a hwyluso prosiectau technegol tri pharti rhwng Llywodraeth Cymru, y byd academaidd a busnesau. 

Mae Ann yn helpu busnesau i gysylltu â rhwydweithiau technoleg yng Nghymru, y DU a’r UE, ac i amlygu cyfleoedd cyllid a chydweithio priodol. Hefyd, fel Ymgynghorydd Eiddo Deallusol cymwysedig, mae’n codi ymwybyddiaeth o eiddo deallusol busnesau, cymorth gwladwriaethol ac ystyriaethau rhyddhad treth yn gysylltiedig ag ymchwil a datblygu.

 
Meysydd diddordeb: 

  • Cemeg polymer a deunyddiau, gan gynnwys profion ffisegol, fformiwleiddio a dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu
  • Ffotocemeg, gan gynnwys catalyddu, ffotofoltäeg a ffotoddiraddiad

 


 

Mae Jeff yn ymgynghorydd Eiddo Deallusol cymwys, ym maes ymchwil a datblygu, ac mae’n arbenigo mewn hyrwyddo technoleg yng nghadwyn gyflenwi’r sector awyrofod yn y DU. 

Ar ddechrau ei yrfa, bu’n gweithio yn y diwydiannau modurol ac awyrofod, gan ganolbwyntio ar ddylunio electromecanyddol, peirianneg cynhyrchu, dylunio llinellau cydosod awtomatig a lled-awtomatig, a dylunio cydrannau awyrofod wedi’u teilwra.
Hefyd, mae Jeff wedi ennill profiad sylweddol ym maes dylunio cynhyrchion/cydrannau plastig, a gweithgynhyrchu mewn union bryd a gweithgynhyrchu darbodus. 

Meysydd diddordeb:

  • Technegau prototeip cyflym a chywasgu amser 
  • Rheoli celloedd a phrosesau 
  • Rheoli gweithredol
  • Technolegau awyrofod – dylunio deunyddiau, cydrannau ac awyrennau cyfan
     

Mae Chris yn arbenigo mewn systemau gweithgynhyrchu peirianneg i sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl gan ffatri a’i staff. Hefyd, mae ganddo brofiad mewn rheoli cylchred oes cynhyrchion, o’r cysyniad hyd at ei lansio hyd at ddiwedd ei oes, dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a dylunio ar gyfer optimeiddio gweithgynhyrchu.
 

Meysydd diddordeb: 

  • Yr economi gylchol
  • Technoleg lân  
  • Dylunio cynhyrchion a gwasanaethau 
  • Diwydiant 4.0
  • STEM mewn addysg 

A yw eich busnes yn barod i ffynnu?

Y cam cyntaf yw llenwi’r ffurflen isod.

Fel arfer, o fewn 24 awr, bydd aelod o dîm Arloesedd SMART yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth am eich busnes, trafod eich anghenion ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael i chi.

Ticiwch y blwch i gadarnhau yr ydych wedi darllen ac yn cytuno i delerau ein Rhybudd Preifatrwydd

 

Mae cannoedd o fusnesau’n elwa eisoes o gymorth Arloesedd SMART. Dysgwch fwy am sut gall Arloesedd SMART helpu eich busnes i ffynnu yma

Gwnewch gais am Arloesedd SMART heddiw