Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)

Nod Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) yw cysylltu heriau yn y sector cyhoeddus â syniadau arloesol mewn diwydiant – gan alluogi sefydliadau i ddefnyddio technoleg sy’n dod i’r amlwg a datrysiadau newydd i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, a helpu busnesau i dyfu ar yr un pryd.  

Mae SBRI yn galluogi’r sector cyhoeddus i weithio gyda diwydiant yn ystod y camau datblygu cynnar, wrth alluogi busnesau i ymchwilio i gyfleoedd newydd drwy gontractau ymchwil a datblygu sy’n cael eu hariannu’n llawn. Gellir ymchwilio i syniadau newydd drwy raglen ddatblygu fesul cam a fydd yn lleihau’r risg ar gyfer y ddau barti cymaint ag y bo modd, a helpu i nodi’r prosiectau mwyaf addawol.

 

Nodweddion allweddol ar gyfer Llywodraeth

  • Cystadlaethau a ysgogir gan heriau, sy’n seiliedig ar y problemau rydych yn eu hwynebu
  • Contract sy’n galluogi cadw rheolaeth a chyfrannu at yr ymchwil a’r datblygu
  • Y cyfle cyntaf i fanteisio ar yr arloesi canlyniadol
  • Mae’n gweithredu o dan Fframwaith Caffael Cyn-fasnachol yr UE
  • Potensial ar gyfer gwelliannau mawr i wasanaethau

 

Nodweddion allweddol ar gyfer arloeswyr:

  • Proses ymgeisio gyflym a syml
  • Contractau sy’n derbyn cyllid gwerth 100%
  • Yn enwedig o addas ar gyfer busnesau bach a chanolog
  • Rhyddid i ddatblygu a gwerthu syniadau arloesol mewn marchnadoedd eraill

 Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Ragoriaeth SBRI, sy’n cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn gweithio ar draws pob sector i greu atebion iechyd arloesol ar gyfer anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu yng Nghymru.  

I weld enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus SBRI yn y gorffennol dilynwch y dolenni uchod:

Dilynwch ein ffrwd Twitter @WG_innovation i weld cyhoeddiadau am heriau SBRI Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.