Ynglŷn â Digwyddiadau yng Nghymru

Rydym yn datblygu Cymru fel cyrchfan cyson ragorol ar gyfer digwyddiadau mawr.
Rydym wedi datblygu ffordd gydgysylltiedig a chydlynol o gefnogi digwyddiadau mawr. 
Mae digwyddiadau’n hybu enw da rhyngwladol Cymru a lles ei phobl a'i chymunedau. Maent yn darparu manteision economaidd sylweddol i'r dinasoedd a'r rhanbarthau sy'n eu cynnal. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i ysgogi twf busnes a mentrau newydd. 

Machynlleth Comedy Festival - © Ed Moore

Nid yw Digwyddiadau Cymru ei hun fel arfer yn cynnal digwyddiadau mawr. Ond rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, yng Nghymru a thu hwnt. 

UK Space Conference at ICC Wales - © ICC Wales

Ffocws y gwaith yw:

  • Denu digwyddiadau rhyngwladol mawr sy'n creu elw mawr ar fuddsoddiad ac yn cyfrannu at hyrwyddo brand Cymru.
  • Nodi ffyrdd newydd ac arloesol o ddenu cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.
  • Gweithio'n strategol gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i nodi digwyddiadau twf posibl a chwilio am gyfleoedd i greu digwyddiadau newydd. 
  • Helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau gref o wybodaeth a phrofiad. Mae hyn yn hanfodol i ddatblygu diwydiant digwyddiadau cynaliadwy sy’n cynnig portffolio o ddigwyddiadau deniadol.

Pam Cymru?

Dyma rai rhesymau dros ddod â’ch digwyddiad i Gymru:

  • Gallwn gynnig cefnogaeth partneriaeth gref tîm Cymru, sy’n hen gyfarwydd â llwyddiant.
  • Gallwn gydweithio’n rhagweithiol â chi i gryfhau’ch brand, y cyfleoedd masnachol a’r manteision y gall eich digwyddiad eu cynnig.
     
ICC Cricket World Cup, Sophia Gardens - © Huw Evans Agency
  • Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleusterau o safon fydeang i chi, gan gynnwys Stadiwm Principality a Chanolfan Mileniwm Cymru.
  • Mae gennym hefyd olygfeydd godidog. Mae ein tirwedd a’n harfordir yn cynnig cefndir ac arena awyr agored anhygoel.
  • Mae gennym hanes a chefndir chwaraeon a diwylliannol cyfoethog ac amrywiol.

Datblygu sgiliau a Gwirfoddoli 

Mae Digwyddiadau Mawr yn ddiwydiant creadigol deinamig sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn gofyn am ystod eang o sgiliau o ansawdd uchel ym meysydd 

  • busnes a chyllid
  • marchnata
  • cyfryngau a chyfathrebu
  • cynhyrchu a chyflwyno digwyddiadau.
     
Volunteers at Newport Marathon - © Run 4 Wales

Mae sylfaen sgiliau gref yn hanfodol i ddatblygu diwydiant digwyddiadau cynaliadwy yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda diwydiant, addysg, darparwyr hyfforddiant a’r trydydd sector i wella galluoedd proffesiynol Cymru fel lleoliad digwyddiadau o safon byd. Mae’r holl ddigwyddiadau rydym yn eu helpu yn cael eu hannog i gynnig profiad gwaith neu leoliadau i fyfyrwyr ynghyd â chyfleoedd gwirfoddoli o’r safon uchaf. Cewch fwy o wybodaeth am gyfleoedd datblygu a gwirfoddoli ar y wefan isod.

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli mewn digwyddiadau mawr llwyddiannus ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd unigolion a chymunedau. Un o'n hamcanion yw cynyddu nifer ac amrywiaeth y gwirfoddolwyr o Gymru sy’n gweithio mewn digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Fel gyda hyfforddiant, rydym am weld cymaint o gyfleoedd gwirfoddoli â phosibl yn y digwyddiadau rydym yn eu helpu. Bydd cyfleoedd gwirfoddoli fel rheol yn cael eu cyhoeddi ar wefannau’r digwyddiad unigol ond rydym hefyd yn annog digwyddiadau i hysbysebu cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
 

Focus Wales - © Kev Curtis

Cyllid

Os gall eich digwyddiad roi hwb i economi Cymru a chodi proffil ac enw da rhyngwladol Cymru, fe allech fod yn gymwys am gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o’r tîm.
Ffôn: 0300 061 6014
E-bost: digwyddiadaucymru@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh
 

Ydych chi’n drefnydd digwyddiadau, ac am ddod â digwyddiad mawr i Gymru?
Ydych chi eisiau datblygu digwyddiad bach i fod yn ddigwyddiad unigryw cenedlaethol?
Ewch i’n tudalen Gyllid am ragor o wybodaeth.

Bydd sgwrs anffurfiol yn ddigon i weld a yw’ch cynigion yn gyson â’n meini prawf. Yna cewch wahoddiad i lenwi holiadur byr a chaiff yr wybodaeth ynddo ei asesu’n ffurfiol. Os bydd eich cais cychwynnol yn llwyddiannus a chan ddibynnu ar faint o gyllid sydd ar gael, cewch wahoddiad i gyflwyno cynllun busnes manwl. Bydd angen i’r cynllun busnes gynnwys proffil cyllid cyflawn. 

Cysylltwch â’r:
Digwyddiadau Cymru
Llywodraeth Cymru
Cathays Park 2
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 0300 061 6014
E-bost: digwyddiadaucymru@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh