Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): agregau

 
Llong garthu (Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain)

Amcanion CMCC ar gyfer sectorau

Parhau i ddefnyddio adnoddau agregau morol ar gyfradd ac mewn lleoliadau sy'n diwallu orau ein hanghenion presennol ac yn y dyfodol trwy sicrhau bod darpariaeth ar gyfer cronfeydd wrth gefn digonol trwy drwyddedau hirdymor.

Beth yw'r sector agregau

Mae'r sector agregau'n tynnu agregau (h.y. tywod a graean) o wely'r môr.  Caiff yr agregau eu codi er mwyn:

  • eu defnyddio wrth adeiladu
  • adfer tir neu ailgyflenwi traethau (ail-lenwi/maethu)

Nid yw'r polisi ar agregau yn CMCC yn cynnwys tynnu agregau:

  • fel un o sgil-gynhyrchion math arall o weithgarwch (e.e. wrth adeiladu prosiect)
  • at ddiben penodol y tu allan i ardal drwyddedig (e.e. tywod yn cael ei chwythu gan y gwynt), neu
  • ar gyfer carthu sy'n gysylltiedig â mordwyo. 

Mae adnoddau agregau morol i'w gweld yn holl ddyfroedd Cymru. Ym Môr Hafren, Aber Hafren ac oddi ar lannau'r Gogledd y bu'r rhan fwyaf o'r gwaith echdynnu. Mae agregau morol yn rhan bwysig o'r cyflenwad cenedlaethol a lleol o agregau, sy'n golygu bod y sector yn hollbwysig i economi Cymru. Mae'n darparu swyddi uniongyrchol yn ogystal â chyflogaeth eilaidd mewn gweithgareddau ategol.

Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau

AGG_01: agregau (cefnogi)

AGG_01 a 

Bydd cynigion ar gyfer echdynnu agregau newydd yn cael eu cefnogi, o fewn unrhyw gyfyngiadau ar dunelledd, lle maent yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu'r cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.     

AGG_01 b

Anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a'r sector, ar y cyd â phartïon cysylltiedig eraill, i gydweithio i ddeall cyfleoedd:

  • ar gyfer defnydd cynaliadwy o adnoddau agregau morol naturiol ehangach;
  • diffinio ac, unwaith y byddant ar waith, datblygu a mireinio ymhellach Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer agregau

er mwyn cefnogi datblygiad cynaliadwy y sector agregau trwy gynllunio morol.    

Map o'r sectorau

Edrychwch ar y sector agregau ar y Porth Cynllunio Morol.

Dolenni perthnasol

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru