Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Amddiffyn

Image removed.

Amcanion CMCC ar gyfer sectorau

Cyfrannu at amddiffyniad y genedl trwy sicrhau nad yw gweithgareddau amddiffyn a diogelwch cenedlaethol yn cael eu peryglu.

Beth yw'r sector amddiffyn

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gyfrifol am amddiffyn pobl y DU ac am ddiogelwch cenedlaethol pobl y DU. Mae’r Weinyddiaeth yn gwneud defnydd helaeth o lannau a moroedd Cymru at amryfal ddibenion amddiffyn, gan gynnwys gwaith hyfforddi, profi a gwerthuso. Mae’n hanfodol nad yw gweithgareddau a datblygiadau morol yn amharu ar fuddiannau amddiffyn strategol.

Mae CMCC yn amlinellu polisi diogelu penodol – Polisi DEF_01.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob cynnig gan bob sector os oes posibilrwydd y byddai’r  cynnig hwnnw’n effeithio ar weithgareddau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau

DEF_01: Amddiffyn (diogelu)

Cynigion hynny:

  • o bosibl yn effeithio ar Ardaloedd Perygl, Ardaloedd Ymarfer neu fuddiannau amddiffyn strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn; a/neu 
  • a allai ymyrryd â chyfleusterau cyfathrebu, gwyliadwriaeth a mordwyo sy’n angenrheidiol ar gyfer amddiffyniad a diogelwch cenedlaethol

dim ond gyda chytundeb y Weinyddiaeth Amddiffyn y dylid ei awdurdodi.

Mae Polisi DEF_01 yn berthnasol i’r holl gynigion gan bob sector sydd â’r potensial i effeithio ar Ardaloedd Perygl, Ardaloedd Ymarfer neu fuddiannau amddiffyn strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn a/neu a allai ymyrryd â chyfleusterau cyfathrebu, gwyliadwriaeth a mordwyo sydd eu hangen ar gyfer amddiffyn a diogelwch cenedlaethol. Dim ond os yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn fodlon na fydd y cynnig yn achosi risg annerbyniol i fuddiannau amddiffyn a diogelwch cenedlaethol y rhoddir caniatâd ar gyfer cynigion o’r fath. Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad na defnydd a fydd naill ai ar ei ben ei hun neu gydag eraill yn rhwystro neu’n llesteirio gweithgareddau amddiffyn mewn rhyw ffordd arall.

Map o’r sectorau

Edrychwch ar y sector amddiffyn ar y Porth Cynllunio Morol.

Dolenni perthnasol

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru