Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Trin a gwaredu dŵr wyneb a dŵr gwastraff (SWW)
Amcanion CMCC ar gyfer sectorau
Diogelu’r gallu i drin a gollwng dŵr ffo wyneb a dŵr gwastraff yn ddiogel ac yn effeithiol.
Beth yw’r sector Trin a Gwaredu Dŵr Wyneb a Dŵr Gwastraff
Mae’r sector Trin a Gwaredu Dŵr Wyneb a Dŵr Gwastraff yn:
- casglu
- cludo
- trin
- gwaredu
dŵr gwastraff.
Mae’n cynnwys carthffosydd, gweithfeydd trin carthion, elifiant diwydiannol a gorlifiant o garthffosydd cyfunol. Mae CMCC yn cydnabod bod darparu seilwaith, drwy:
- gynllunio ar y tir
- cynllunio ar y môr
ar gyfer y sector hwn yn weithgareddau allweddol. Mae’n hollbwysig bod y sector Gwaredu Dŵr Wyneb a Dŵr Gwastraff yn parhau i fedru gweithredu. Mae sectorau eraill yn dibynnu ar gyrff dŵr iach a glân ar gyfer eu gweithgareddau eu hunain.
Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau
SAF_01 (diogelu)
Mae Polisi SAF_01 felly yn berthnasol i bob cynnig gan bob sector (gan gynnwys cynigion newydd gan y sector SWW) a allai effeithio ar weithgareddau presennol neu arfaethedig ar gyfer trin a gwaredu dŵr wyneb ffo a dŵr gwastraff lle rhoddwyd neu lle gwnaed cais ffurfiol am ganiatâd neu awdurdodiad neu les. Mae’r polisi hwn yn cydnabod pwysigrwydd cael seilwaith dŵr gwastraff a’r gwaith a’r buddsoddiad sydd eu hangen i ddatblygu safleoedd priodol.
Map o’r sectorau
Edrychwch ar y trin a gwaredu dŵr wyneb a dŵr gwastraff.