Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Ynni – olew a nwy


Image removed.

Amcanion CMCC ar gyfer sectorau  

Mae'r cyfrifoldeb dros drwyddedu olew a nwy, cydsynio a thrwyddedu yn ardal WNMP wedi'i rannu rhwng Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU ac awdurdod olew a nwy y DU.

Amcan sector Llywodraeth y DU (ar gyfer ardaloedd sy'n ddarostyngedig i bolisi cenedlaethol Llywodraeth y DU):

Sicrhau bod olew a nwy yn y DU yn cael eu hadfer yn gynaliadwy er mwyn darparu cyflenwad diogel, fforddiadwy a gwydn o ynni i ddefnyddwyr masnachol a domestig tra'n bodloni nodau datgarboneiddio'r DU.

Amcan polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi rhagor o gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil.

Beth yw'r sector ynni-olew a nwy

Mae olew a nwy yn cynnwys archwilio, datblygu a chynhyrchu adnoddau olew a nwy. Mae hyn yn cynnwys:

  • nwy siâl
  • methan gwely glo, a
  • nwyeiddio glo tanddaearol

drwy ddulliau confensiynol ac anghonfensiynol.

Cyfrifoldeb am:

  • trwyddedu ynni
  • cydsynio ynni
  • caniatáu ynni

yn ardal CMCC wedi'i rannu rhwng:

  • Llywodraeth y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdod olew a nwy y DU (OGA).

Mae'r CMCC yn cynnwys y priod bolisïau sector olew a nwy. Mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli trwyddedu olew a nwy i Lywodraeth Cymru ar gyfer:

  • ardaloedd ar y tir
  • dyfroedd mewnol (ardaloedd rhynglanwol, aberoedd ac ardaloedd mewndirol arfordirol).

Y tu hwnt i'r terfynau hyn, yr awdurdod trwyddedu perthnasol yw'r OGA. Nod polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi rhagor o echdynnu tanwyddau ffosil.  Bydd yn ofynnol i gynigion y tu allan i ardal trwydded Llywodraeth Cymru sy'n gofyn am seilwaith ar dir fod yn gydnaws â dull datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.

Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau

Dylech gyfeirio at y ddogfen ei hun i weld disgrifiad llawn o’r polisi.

O&G_01: olew a nwy (cefnogi)

O&G_01 a 

Ar gyfer ardaloedd sy'n ddarostyngedig i bolisi cenedlaethol Llywodraeth y DU:

Bydd cynigion ar gyfer echdynnu olew a nwy yn gynaliadwy gan gael y gorau ohono'n economaidd. Yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cydymffurfio ag amcanion y cynllun hwn, ac yn bodloni’n llawn y mesurau diogelu amgylcheddol sydd wedi'u cynnwys yn y prosesau statudol o ddyfarnu trwyddedau cynhyrchu a chymeradwyaethau dilynol sy'n benodol i weithgareddau. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.

O&G_01 b

Polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi parhau i echdynnu tanwyddau ffosil mewn ardaloedd rhynglanwol ac aberoedd a dyfroedd mewndirol arfordirol sy'n dod o fewn ardal trwydded tir Cymru. Ni ddylid cefnogi ceisiadau am drwyddedau petroliwm newydd yn yr ardaloedd hyn, oni bai bod eu hangen ar gyfer diogelwch mwyngloddio neu at ddibenion gwyddonol. Mae'n rhaid i gynigion ar gyfer datblygu ac echdynnu olew a nwy yn yr ardaloedd hyn gydag elfennau ar y tir ddarparu tystiolaeth gadarn a chredadwy i ddangos sut y maent yn cydymffurfio â hierarchaeth ynni polisi cynllunio Cymru ar gyfer cynllunio, gan gynnwys sut y maent yn gwneud cyfraniad angenrheidiol tuag at ddatgarboneiddio'r system ynni.

O&G_02: olew a nwy (cefnogi)

Bydd cynigion sy'n cefnogi datblygiad hirdymor technoleg dal a storio carbon yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.

Map o’r sectorau

Edrychwch ar y sector olew a nwy ar y Porth Cynllunio Morol.

Dolenni perthnasol 

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru