Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC):Porthladdoedd a morgludo


Image removed.

Amcanion CMCC ar gyfer sectorau  

Diogelu llwybrau morgludo sefydledig a hybu twf cynaliadwy yn y sector porthladdoedd a morgludo.

Beth yw’r sector porthladdoedd a morgludo

Mae’r sector Porthladdoedd a Morgludo’n cynnwys adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw:  

  • porthladdoedd
  • harbyrau
  • terfynfeydd
  • marinas.

Mae CMCC yn cydnabod bod y sector yn:

  • faes sy’n cael blaenoriaeth er mwyn datblygu Cymru yn y dyfodol
  • blaenoriaeth strategol ym maes cynllunio morol.

Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau

P&S_01: porthladdoedd a morgludo (cefnogi)

P&S_01 a 
Bydd cynigion ar gyfer porthladdoedd, harbyrau a gweithgareddau morgludo yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y Cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r Cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.

P&S_01 b

Anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a’r sector, ar y cyd â phartïon cysylltiedig eraill, i gydweithio i ddeall cyfleoedd i gefnogi twf cynaliadwy’r sector porthladdoedd a morgludo drwy gynllunio morol.

P&S_02: porthladdoedd a morgludo (cefnogi)

Bydd cynigion sy’n darparu ar gyfer cynnal, atgyweirio, datblygu ac arallgyfeirio cyfleusterau porthladdoedd a harbyrau yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y Cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r Cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.

Map o’r sectorau

Edrychwch ar y sector porthladdoedd a morgludo ar y Porth Cynllunio Morol.

Dolenni perthnasol

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru