Trwyddedu morol

Os ydych yn unigolyn neu'n fusnes sy'n cynllunio datblygiad morol yng Nghymru, bydd angen ichi ystyried y gofyniad am drwydded i gynnal eich gweithgarwch. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig i reoli ystod o weithgareddau morol. 

Mae angen trwydded ar ystod eang o weithgareddau yn nyfroedd Cymru cyn y gall y gwaith ddechrau. Mae ceisiadau'n cael eu gwneud fel arfer ar gyfer dyddodion neu sylweddau neu wrthrychau yn y môr, neu ar wely'r môr neu o dan wely'r môr, er enghraifft:

  • carthu wrth fordwyo a gwaredu deunydd wedi'i garthu yn y môr
  • carthu am agregau
  • adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy ar y glannau
  • casglu gwaddodion at ddibenion samplo
  • gosod tyrbinau llanw neu wynt
  • gwaith adeiladu ar yr arfordir (muriau môr, glanfeydd, estyniadau i borthladdoedd/harbyrau ac ati).

Wrth benderfynu ar gais am drwydded morol mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu ystyried

  • yr angen i warchod yr amgylchedd,
  • yr angen i warchod iechyd dynol,
  • yr angen i atal unrhyw ymyrraeth o ran defnydd cyfreithiol o'r môr,

a materion eraill fel y mae'r awdurdod yn credu sy'n berthnasol

Asesiad o'r Effaith ar yr Amgylchedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Mae'r Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (fel y'i diwygiwyd) yn cynnwys Cyfarwyddeb Ewrop i Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol o fewn cyfraith y DU.  Mae'r Gyfarwyddeb yn anelu at sicrhau bod yr awdurdod trwyddedu sy'n cydsynio yn ymwybodol o unrhyw effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol cyn gwneud ei benderfyniad. 

Os yw prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, mae'n rhaid cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol cyn i drwydded gael ei roi. Nod yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yw gwarchod yr amgylchedd a chaniatáu i'r cyhoedd chwarae rhan wrth wneud penderfyniadau.

Am ragor o wybodaeth a chyngor ar a yw'n ofynnol ichi gael trwydded forol ar gyfer eich prosiect, a rhagor o wybodaeth ar asesiad o'r effaith amgylcheddol a gofynion cysylltiedig eraill, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn yr un modd, bydd angen Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd wrth gynllunio datblygiadau ger safle a ddiogelir dan gyfraith Ewrop. Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am y broses asesu yma:

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/marine-licensing…

Mae'n bosib cysylltu â Thîm Trwyddedu Morol Cyfoeth Naturiol Cymru ar: 

E-bost: marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk

Rhif Ffôn: Llinell  Ymholiadau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru - 0300 065 3000.

I gael gwybodaeth am bolisi a threfniadau trwyddedu morol Llywodraeth Cymru, ewch i'n tudalennau trwyddedu morol.

 

Dolenni at feysydd eraill:

Datblygu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
Am ragor o wybodaeth am bolisi cynllunio morol Llywodraeth Cymru cliciwch uchod.

Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol
Mae'r system trwyddedu morol yn ddull o ddarparu Statws Amgylcheddol Da yn ein dyfroedd erbyn 2020.