​​​​Mae’n rhoi rhagor o fanylion ynghylch y polisïau yn yr CMCC i helpu i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni mewn modd effeithiol a chyson. Mae'n rhoi gwybodaeth am y gofynion cydsynio perthnasol, llywodraethu, deddfwriaeth arall a diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn yr CMCC. Mae hefyd yn rhoi canllawiau penodol sy’n berthnasol i bob polisi yn yr CMCC.

Mae’n rhaid i Awdurdodau Cyhoeddus ystyried y canllawiau hyn, wrth wneud penderfyniadau a allai gael effaith ar ardal y cynllun. Mae'n eistedd ochr yn ochr â pholisïau, canllawiau a thystiolaeth anstatudol arall sy’n gysylltiedig â’r cynllun i ategu cynllunio morol yng Nghymru. Byddwn yn ei ddiweddaru o dro i dro. Nid yw’r canllawiau'n cyflwyno polisïau cynllunio newydd, a dylech ei ddarllen ochr yn ochr â’r CMCC. Dyma un o'r cynhyrchion gan y tîm cynllunio morol i helpu defnyddwyr i gymhwyso cynllun morol cyntaf Cymru.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen