Mae’r daith fasnach yn cael ei chefnogi gan y prosiect Datblygu’r Farchnad Fwyd Môr, a gafodd dros £1 miliwn yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop.

Dyma’r tro cyntaf i daith fasnach bwyd môr o Gymru ymweld â Hong Kong. Yn Seafood Expo Asia, bydd modd i’r cynrychiolwyr ddysgu am gyfleoedd i allforio’u cimychiaid, eu crancod, eu hwystrys, eu cregyn bylchog a bwydydd môr rhagorol eraill Cymru.

Hefyd, fel rhan o’r daith fasnach, bydd gan gwmnïau o Gymru gyfle i ymweld â marchnadoedd pysgod cregyn lleol a chwrdd â chyfanwerthwyr a manwerthwyr er mwyn dysgu mwy am ddiwydiant bwyd môr Tsieina sy’n tyfu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:


“Mae Brexit yn dod â heriau a chyfleoedd i’n diwydiant pysgota. Rydyn ni’n gwneud popeth a allwn i helpu’r diwydiant i baratoi ar gyfer yr heriau hyn ac i addasu i fyd ar ôl Brexit.

"Ers refferendwm yr EU, mae diddordeb cynhyrchwyr yng Nghymru mewn allforio i Tsieina a gwledydd eraill Asia wedi cynyddu. Rydyn ni’n awyddus i’w helpu i ddysgu mwy am y cyfleoedd y gall y marchnadoedd hyn eu cynnig. Mae gan y Prosiect Datblygu Bwyd Môr ran bwysig i’w chwarae o ran cynnal y sector wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi gadael yr Undeb Ewropeaidd a helpu i farchnata bwyd môr Cymru yn y Deyrnas Unedig a thramor."

Cwmnïau sy’n rhan o’r daith fasnach:

The Lobster Pot – Mae’r cwmni hwn yn Ynys Môn yn cyflenwi cimychiaid Ewropeaidd ffres a chrancod coch ffres i gyfanwerthwyr a manwerthwyr ledled y byd.

WM Shellfish – Mae’r cwmni hwn yng Nghaergybi yn cyflenwi cregyn y brenin a chregyn y frenhines, cimychiaid, crancod coch, crancod heglog, cregyn moch a chregyn gleision i gyfanwerthyr, manwerthwyr ac arlwywyr.

Tethys Oysters - Mae’r cwmni hwn yn Sir Benfro yn cynhyrchu wystrys brodorol o ansawdd rhagorol (Ostrea edulis) i’w hallforio.

Ross Shellfish – Mae’r cwmni hwn yng Nghaernarfon yn gwerthu gwichiaid yn ogystal â physgod cregyn eraill gan gynnwys cregyn gleision, cregyn cylchog a chregyn bylchog.

CamNesa – Mae’r cwmni ymgynghori hwn yng Ngheredigion yn darparu cyngor a chymorth i’r diwydiant byd môr, yn benodol mewn perthynas â’r fasnach crancod coch, cimychiaid a chregyn moch.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen