Cymunedau Arfordirol

Mae gan Gymru 1680 o filltiroedd o arfordir, sy'n 15% o arfordir Prydain, ac mae cymunedau arfordirol Cym,ru yn estyn o ddinasoedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe yn y De i drefi Caergybi, Bangor a Mostyn yn y Gogledd.  

Mae gan ein cymunedau arfordirol gyfoeth o hanes morol a diwydiannol, ac mae'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â nhw yn amrywio o bysgodfeydd hanesyddol i weithfeydd dur a chynhyrchu awyrennau gan Airbus ym Mostyn. 

Gall Cymunedau Arfordirol Cymru elwa ar amrywiaeth o gymorth a chyngor, sydd ar gael drwy'r dolenni isod:


Grwpiau Gweithredu Lleol Pysgodfeydd - GGLP’au

Mae Datblygiad Lleol dan arweiniad y Gymuned yn galluogi cymunedau pysgodfeydd i ddatblygu economi a gwydnwch eu cymuned arfordirol ar lawr gwlad, gan ddefnyddio gwybodaeth rhanddeiliaid lleol i fynd i’r afael â materion lleol trwy Grwpiau Gweithredu Lleol Pysgodfeydd (GGLP).

Ar hyn o bryd mae pedwar GGLP yng Nghymru:

Mae pob GGLP yn tynnu ei aelodaeth o amrywiaeth o randdeiliaid lleol, gan gynnwys pysgotwyr, ffermwyr dyframaethu, busnesau lleol, awdurdodau cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill o sefydliadau lleol a chymdeithas sifil. Trwy broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid, meithrin gallu grwpiau targed a chydweithredu, mae’r problemau a wynebir a’r cyfleodd sydd ar gael i ardal yn cael eu cydnabod a chaiff atebion posibl eu treialu.

Mae pob GGLP yn cynllunio ac yn gweithredu Strategaeth Datblygu Lleol ar gyfer eu hardal. Mae’r SDL hwn yn nodi’r sefyllfa ar gyfer eu hardal a sut mae’r GGLP yn anelu at fynd i’r afael ag amcanion perthnasol gan gynnwys o leiaf un a ddewisir o’r canlynol:

  • Ychwanegu gwerth, creu swyddi, denu pobl ifanc a hyrwyddo arloesedd ym mhob cam o'r gadwyn gyflenwi o gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu
  • Cefnogi arallgyfeirio y tu mewn neu'r tu allan i bysgodfeydd masnachol, dysgu gydol oes a chreu swyddi mewn pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu
  • Gwella a manteisio ar asedau amgylcheddol ardaloedd pysgodfeydd a dyframaethu, gan gynnwys gweithrediadau i liniaru newid yn yr hinsawdd
  • Hyrwyddo lles cymdeithasol a threftadaeth ddiwylliannol mewn ardaloedd pysgodfeydd a dyframaethu, gan gynnwys pysgodfeydd, dyframaeth a threftadaeth ddiwylliannol morwrol.
  • Cryfhau rôl cymunedau pysgodfeydd mewn datblygu lleol a llywodraethu adnoddau pysgodfeydd lleol a gweithgareddau morwrol. 
     

Rhwydweithiau

Y Gynghrair Cymunedau Arfordirol

FARNET

Rhwydwaith Gwledig Cymru


Cyllid

I weld gwybodaeth am gyllid, ewch i'r tudalennau Cyllid a Datblygu Busnes