Porthladdoedd a Llongau

Mae gan Gymru nifer o borthladdoedd ar hyd ei harfordir, gyda'r prif leoliadau ar hyd arfordir de a gogledd Cymru.

Porthladd Aberdaugleddau yn Sir Benfro yw'r trydydd porthladd mwyaf ym Mhrydain a'r DU ac yn ganolfan ynni strategol.

Yn bellach ar hyd arfordir De Cymru, mae Abertawe, Port Talbot, Caerdydd a Chasnewydd yn ganolfannau cyfleusterau Associated British Ports, sy'n delio â chargo ac agregau.

Yng Ngogledd Cymru, mae Caergybi a Mostyn yn ganolfan i wasanaethau teithwyr a chludiant, gyda Mostyn yn gyswllt hanfodol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer cyfleuster cynhyrchu adenydd Airbus yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith porthladdoedd Cymru i gefnogi'r broses o greu cyfoeth a thwf economaidd o fewn ei Rhaglen Lywodraethu.

Am ragor o wybodaeth am Borthladdoedd yng Nghymru, edrychwch ar y dolenni canlynol:


Porthladdoedd

Associated British Ports South Wales
Y Barri, Caerdydd, Casnewydd, Port Talbot ac Aberatwe

Porthladd Abergwaun
Stenaline Porthladd Abergwaun
Stenaline yw'r perchennog a'r cwmni sy'n rhedeg y porthladd

Porthladd Caergybi
Stenaline Porthladd Caergybi
Stenaline yw'r perchennog a'r cwmni sy'n rhedeg y porthladd

Porthladd Aberdaugleddau
Porthladd Aberdaugleddau a Phorthladd Penfro

Porthladd Mostyn
Y Gogledd


Cymorth Llywodraeth Cymru

Am ragor o wybodaeth o ran cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer eich busnes, cliciwch at dudalennau Datblygu Cyllid a Busnes