Twristiaeth a Hamdden
Mae arfordir Cymru yn 1680 o filltiroedd o hyd, felly mae'r sector twristiaeth yn ffynnu o amgylch y dinasoedd, y trefi a'r pentrefi arfordirol ar hyd glannau Cymru.
Mae'r amgylchedd morol yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i dwristiaid ac i bobl sy'n ymweld â Chymru, gan amrywio o weithgareddau antur i bysgota mwy traddodiadol ar y môr ac ar ein dyfroedd mewndirol.
Mae gwefan Marine Wales yn darparu adnoddau ar gyfer unigolion a busnesau sy'n gweithio yn y sector i'w helpu i ddatblygu eu busnesau ym maes gweithgareddau twristiaeth sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd morol. Mae'r dolenni isod yn arwain at wybodaeth allweddol a fydd o gymorth i ddatblygu sector twristiaeth cynaliadwy yng Nghymru:
Buddsoddi mewn Twristiaeth
Am wybodaeth yn ymwneud â buddsoddi mewn twristiaeth, dilynwch y ddolen isod at y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth a chynlluniau grant eraill a allai gynnig cymorth i'ch busnes:
https://businesswales.gov.wales/tourism/cy
Mae 2018 yn Flwyddyn y Môr, menter sy'n cael ei hyrwyddo gan Croeso Cymru i ddathlu'n harfordir ysblennydd. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallai'ch busnes elwa ar y fenter hon, dilynwch y dolenni isod:
https://businesswales.gov.wales/tourism/cy/y-blynyddoedd-thematig/2018-…
I weld rhagor o wybodaeth am gyllid a chymorth, ewch i'r dudalen Cyllid a Datblygu Busnes.
Genweirio Hamdden
Gall pysgotwyr sy'n ymweld â Chymru, a hefyd dwristiaid sydd â diddordeb yn y maes, bysgota ar y môr a genweirio yma.
Am wybodaeth am glybiau genweirio, cystadlaethau, lleoedd i bysgota ac i aros, manylion am wersi, technegau a mwy, ewch i Fishing Wales neu Angling Cymru.
Am wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chymru a manylion am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, ewch i wefan Croeso Cymru.
Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi gwybodaeth am drwyddedau pysgota â gwialen.
Cynllunio Gweithgareddau Twristiaeth Forol
Os ydych yn fusnes sy'n bwriadu datblygu gweithgaredd twristiaeth forol, mae'n bosibl y bydd gofyn ichi ystyried yr effeithiau y gallai hynny ei chael ar yr amgylchedd.
Am wybodaeth yn ymwneud â thrwyddedu morol, ewch i'r dudalen Trwyddedu Morol ar wefan Marine Wales.