Airbus UK

Gallwch gyrraedd yn uwch gyda sgiliau uwch. Sylweddolodd Airbus hyn wrth roi unigolion ar Brentisiaethau Uwch a’u hyfforddi i lefel gradd ac uwch.

Mae Prentisiaethau Uwch yn canolbwyntio ar fireinio, datblygu a chynyddu’r amrywiaeth o sgiliau cadarn penodol i’ch busnes sydd gennych eisoes.

Po fwyaf medrus ac effeithlon y bydd eich staff, y mwyaf cynhyrchiol a chystadleuol y bydd eich busnes.

Y Rhaglen Brentisiaethau yw conglfaen strategaeth sgiliau Airbus, ac mae llawer o dalent yn cael ei chadw a’i datblygu yn y cwmni.

Mae hyn yn sicrhau bod gan y cwmni cynhyrchu awyrennau, sydd gyda’r gorau yn y byd, weithlu medrus iawn.

Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae Airbus wedi hyfforddi mwy na 4,000 o brentisiaid ledled y DU a dechreuodd 70 y cant o’r uwch-reolwyr fel prentisiaid eu hunain.

Mae’n uchelgais gan y cwmni hefyd i gynyddu nifer y prentisiaid sy’n ferched i 25 y cant.

“Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o brentisiaethau, o raglenni i israddedigion sydd gyfwerth â Gradd Anrhydedd, i brentisiaethau crefft a fydd yn galluogi rhywun i ddod yn grefftwr medrus,” meddai Gavin Jones, Rheolwr Rhaglenni Gyrfaoedd Cynnar.

“Rhaid i chi dreulio amser i gychwyn yn hyfforddi, arwain a thiwtora prentisiaid ond mae hynny yn talu ar ei ganfed wrth i’r profiad a’r cymwysterau y byddan nhw’n eu hennill helpu eich busnes I ddod yn llawer mwy cynhyrchiol a chystadleuol.”