Argos

Sylweddolodd Argos y byddai dilyniant staff a llenwi bwlch sgiliau manwerthu yn allweddol i ehangu’n gyflym.

Am mai’r cynghorwyr cwsmeriaid yn y siop fyddai arweinwyr yfory, lansiodd y cwmni Brentisiaethau Argos, rhaglen oedd yn galluogi gweithwyr ar bob lefel yn y busnes i ddewis o ystod o fodiwlau.

Gweithiodd Argos yn agos gyda’i ddarparwr dysgu Itec Skills and Employment ac eraill i greu rhaglen oedd yn gallu cyflawni heriau a disgwyliadau’r busnes wrth iddo dyfu.

Mae’r cwmni’n darparu fframweithiau mewn manwerthu, arwain tîm warws a rheolaeth ILM ac yn defnyddio llwyfan e-ddysgu i alluogi’r staff i gyd i gael mynediad i ddysgu a gwybodaeth.

Mae gan y dysgwyr gyfraddau cyflawniad fframwaith cyson uchel o 88 y cant.