BBC Cymru Wales

Mae'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. Mae'r bobl sy'n gweithio yn y BBC yn deall nad creadigrwydd yw'r unig  beth sy'n allweddol i'w llwyddiant yn y dyfodol. Mae prentisiaethau yr un mor allweddol.

Mae prentisiaethau yn gwneud busnesau’n fwy cynhyrchiol a chystadleuol drwy greu cyfleoedd i bobl ifanc.

Mae gan brentisiaid uchelgais, talent, ac ymroddiad i helpu eich busnes i gyrraedd lefel newydd o ran cynaliadwyedd a llwyddiant.

Gwnaeth datblygu canolfan gynhyrchu newydd, sef Roath Lock ym Mae Caerdydd, arwain at greu Rhaglen Brentisiaeth ym maes drama. Mae’r rhaglen hon wedi bod yn llwyddiant i'r BBC ers iddi gael ei sefydlu.

“Roedd angen i ni ddatblygu ffordd o sicrhau ein bod yn meithrin a datblygu gweithlu lleol yn y meysydd lle'r oedd bylchau o ran sgiliau allweddol,” meddai Tom Morrey, Rheolwr Talent yn y BBC.

“Bu ein hadrannau cynhyrchu yn ystyried opsiynau amrywiol  i fodloni ein gofynion ni, a gofynion ein gweithwyr, ond roedd Rhaglen Brentisiaeth yn ateb yr holl ofynion.

"Mae canlyniad y cynllun wedi bod yn glir. Mae gan brentisiaid ffordd i mewn i ddiwydiant cystadleuol iawn wrth ddysgu sgiliau allweddol, sy'n ddewis gwahanol i fynd i'r brifysgol.

"Mae gan y BBC weithlu deinamig a chreadigol sy'n sicrhau bod cynnwys ein rhaglenni yn cyrraedd y safon yr ydym ni a’n cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl.”