Canllaw ymarferol i gyflogwyr ynglŷn â chyflogi pobl anabl

 

DARGANFYDDWCH FWY YMA

A more equal Wales

Cyflogaeth Pobl Anabl

Ydych chi’n cyflogi pobl anabl? Hoffech chi ehangu’r gronfa dalent sydd ar gael ichi a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eich gweithlu? Neu ydych chi am gefnogi’r gweithwyr anabl sydd eisoes yn rhan o’ch gweithlu?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a gwneud busnesau mor gynhwysol â phosibl, gan greu amodau lle gall pob unigolyn ffynnu.

Yn draddodiadol mae cyfradd cyflogaeth pobl anabl yn sylweddol is na chyfradd cyflogaeth pobl nad ydynt yn anabl.

Mae ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 yn dangos mai cyfradd cyflogaeth pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 50%, o’i gymharu ag 81% o bobl nad ydynt yn anabl.

Mae angen gweithredu i gau’r bwlch cyflogaeth hwn. Un o’r ymrwymiadau allweddol a nodwyd yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r nifer o gyflogwyr sy’n creu gweithleoedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor.

Mae’r wybodaeth a’r cymorth a gyflwynir yma yn annog ac yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth, gan ddangos y gallwch ddatblygu eich arferion recriwtio a chyflogaeth yn hawdd i wella canlyniadau swyddi a rhagolygon gyrfa i bobl anabl, cael mynediad at gronfa dalent, a manteisio ar weithlu amrywiol.

Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.

Beth yw e?

Gwasanaeth unigryw am ddim yw hwn i bob cyflogwr yng Nghymru, waeth beth fo faint y busnes. Gall yr Hyrwyddwyr gysylltu â chi mewnffordd sy'n addas i chi a'ch busnes ar sail un-i-un neu mewn cyfarfodydd staff. 

P'un a ydych chi am gyflwyno talent newydd i'ch tîm, cadw staff presennol sydd wedi mynd yn anabl, neu am sicrhau bod eich gweithle a'ch polisïau Adnoddau Dynol yn gynhwysol, gall yr Hyrwyddwyr helpu. Gallan nhw roi cyngor ar hyn a'r canlynol:

  • Recriwtio cynhwysol;
  • Cymorth ariannol;
  • Cyngor ymarferol ar gadw staff.

Sut fydda' i'n elwa o hyn?

Drwy gysylltu â Hyrwyddwr cewch gyfle i gael pecyn cymorth pwrpasol ar gyfer eich busnes – a fydd yn helpu i sichrau bod eich busnes yn arwain y ffordd o ran cynwysoldeb. 

Gall unrhyw fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eu gweithlu – gan gynnwys gwybod mwy am yr holl fanteision a'r gefnogaeth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl – gysylltu â'r Hyrwyddwyr yn DPEC@llyw.cymru.

ACE Lifts

Gallai prentisiaeth fod yn drobwynt i bobl anabl sy'n edrych i gael gwaith.

ITV Cymru

Mae prentis yn profi nad yw colli clyw yn rhwystr i greadigrwydd.


Taflen Mynediad at Waith

Grant sy’n ddibynnol ar y galw yw Mynediad at Waith. Mae’n darparu cymorth i bobl sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd. Y nod yw eu helpu i ddod o hyd i waith neu aros mewn gwaith.

10 Rheswm i Gyflogi Prentis Anabl

Eisiau recriwtio pobl anabl dalentog sydd â sgiliau priodol ar gyfer eich busnes?

Yr ateb yw Prentisiaethau.

Prentisiaethau Cynhwysol

 

Manylion ar Brentisiaethau Cynhwysol -

Gellir gweld Camau Anabledd yma

Cymru sy’n fwy cyfartal DARLLEN HAWDD

Canllaw ymarferol i gyflogwyr ynglŷn â chyflogi pobl anabl.

Cymru sy’n fwy cyfartal

Canllaw ymarferol i gyflogwyr ynglŷn â chyflogi pobl anabl

Canllaw Gweithio o Bell: Cefnogi gweithwyr anabl

Mae’n cynnig cyngor ymarferol i fusnesau sy’n cyflogi pobl anabl sy’n gweithio gartref neu’n gweithio o bell.

Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau yn y gweithle, ac i gael cyngor gan arbenigwyr yn y maes, ewch i:

 Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle