ReAct+
Dod o hyd i bobl dda gyda’r sgiliau cywir yw’r allwedd i lwyddiant.
Beth mae'n ei olygu
Rydyn ni i gyd yn bobl dalentog.
Mae ReAct+ yn cynnig pecyn o gefnogaeth i helpu pobl 20 oed neu'n hŷn, sydd wedi eu heffeithio gan ddiswyddiad yn ystod y 6 mis diwethaf ac sy'n anabl i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Mae'n newyddion da iddyn nhw - ac yn newyddion gwych i chi.
Sut mae'n gweithio
Pan fyddwch yn cyflogi recriwt cymwys, byddwn yn rhoi hyd at £4,000 i chi, a delir drwy bedwar rhandaliad am y 12 mis cyntaf i helpu i dalu eu cyflog.
Pwy sy’n gymwys?
Rhaid i'r person yr ydych am ei recriwtio fod yn 20 oed neu’n hŷn ac yn anabl (amhariad corfforol, niwroamrywiaeth, neu broblemau iechyd meddwl), ac un o'r canlynol:
- O dan Rybudd Diswyddo ffurfiol neu
- Ei swydd wedi'i dileu yn ystod y 6 mis diwethaf neu
- Yn gyn-droseddwr neu droseddwr sy'n cwblhau ei ddedfryd yn y gymuned
Ym mhob achos, rhaid iddynt hefyd fod yn preswylio yng Nghymru ar ddyddiad y diswyddo ac ar y dyddiad y gwnewch eich cais am gyllid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg. Anogir cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n cyd-fynd ag egwyddorion gwaith teg.
Rhaid i'r swydd rydych chi'n ei chynnig fod:
- am 16 awr yr wythnos neu fwy;
- wedi'i thalu ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu uwch. Rydym yn annog cyflogwyr i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr o leiaf;
- i bara o leiaf 12 mis;
- peidio â chael ei chefnogi gan gontract 'dim oriau' neu 'oriau heb-warant'; a
- peidio â chael ei chefnogi gan unrhyw gyllid cyhoeddus arall.
Hefyd, ni ddylai eich busnes fod wedi cyrraedd trothwy Rheoli Cymhorthdal y DU sy'n cyfyngu ar faint o arian y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu.
Bydd y recriwt yn cael ei anghymhwyso rhag y rhaglen os bydd yn dechrau gweithio i chi cyn i'ch cais am gyllid gael ei gymeradwyo neu os ydynt wedi bod mewn cyflogaeth barhaus am 6 wythnos neu fwy rhwng dyddiad y diswyddiad a dyddiad y cais am grant. Mae amodau eraill yn berthnasol.
Sut mae hyn o fudd i chi?
- Gwella eich cynhyrchiant a'ch cystadleurwydd drwy recriwtio staff o safon.
- Lleihau eich costau staffio.
- Rhoi hwb i'ch cyfalaf gweithio.
- Gorbenion is a chynyddu elw.
- Cyfrannu at y Warant i Bobl Ifanc, gan helpu i greu cyfleoedd i bobl ifanc 20-24 oed sydd wedi colli eu gwaith i ddod o hyd i waith teg.
Sut i wneud cais
Os oes gennych unigolyn cymwys mewn golwg i'w recriwtio, a chithau am wneud cais am gymorth ReAct+ cliciwch Cais ReAct+. Os ydych yn dymuno cyflogi unigolyn o dan gynllun cymhorthdal cyflogau ReAct+, rhaid i chi aros i Lywodraeth Cymru gymeradwyo eich cais cyn gwneud hynny.
Os ydych am recriwtio ond yn cael trafferth dod o hyd i ymgeisydd/ymgeiswyr, mae'r Bwletin Swyddi yn wasanaeth am ddim gan Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio a all eich helpu i hyrwyddo eich swydd wag i ystod eang o ddarpar weithwyr.
Os hoffech gael gwybod mwy am y cymorth recriwtio a hyfforddi sydd ar gael, cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb.