1. Cyflwyniad
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn cytuno bod cael gweithlu medrus yn un o'r allweddi i fod yn llwyddiannus. Drwy gynllunio'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eich amcanion busnes a strwythuro'r modd y darperir hyfforddiant bydd eich busnes yn gallu addasu beth bynnag newid sydd ar y gorwel.
Bydd y wybodaeth yn yr adran hon yn eich helpu i:
- adnabod y sgiliau anghenrheidiol i’ch busnes a lle mae’r bylchau
- wybod beth mae cynllunio eich Datblygu Sgiliau yn ei olygu
- ddeall sut i roi ar waith yr hyfforddiant gorau i’ch busnes a staff
- ystyried pa mor effeithiol a defnyddiol mae’r hyfforddiant i’ch busnes
2. Manteision Datblygu Sgiliau eich staff
Bydd buddsoddi yn sgiliau eich staff yn eich helpu i wella cynhyrchedd, cynyddu cywirdeb a chynnig gwasanaeth o safon uwch, gan wella boddhad cwsmeriaid. Trwy greu awyrgylch o welliant parhaus ac arloesi, fe'ch gwelir fel cyflogwr o ddewis - gan eich cynorthwyo i ddenu a chadw'r staff gorau.
Eich gwobr fydd:
- ymateb gwell i newidiadau mewn technoleg, prosesau ac offer
- gweithlu mwy hyderus a hyfyw
- lefelau cydymffurfio uwch â gofynion cyfreithiol gan gynnwys deddfwriaeth iechyd a diogelwch
- gwell enw da ymhlith y gweithlu a'r gymuned
- gwell cyfathrebu o fewn y busnes a chyda chwsmeriaid, cyflenwyr ac eraill
y dylai pob un ohonynt arwain at ........
- fwy o elw
3. Beth mae Datblygu Sgiliau yn ei olygu?
Mae pedwar maes allweddol y dylech eu hystyried wrth benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu a hyfforddi eich staff.
- Nodi anghenion datblygu sgiliau.
- Cynllunio a dylunio hyfforddiant priodol.
- Gweithredu hyfforddiant.
- Gwerthuso hyfforddiant.
4. Nodi anghenion Datblygu Sgiliau
Mae dadansoddiad o anghenion hyfforddi (DAH) yn ffordd o ddangos lle y gallai fod bylchau sgiliau yn eich busnes. Mae cynnal DAH yn rheolaidd yn eich helpu i gadw ar y blaen o ran eich anghenion sgiliau newidiol wrth i'r busnes ddatblygu, fel:
- Symud mewn i farchnadoedd newydd.
- Cyflwyno technoleg neu systemau newydd.
- Datblygu cynnyrch newydd.
- Ehangu.
- Cynllunio ar gyfer olyniaeth.
Dylid asesu anghenion datblygu sgiliau ar 3 lefel:
- Lefel sefydliadol.
- Lefel adrannol / tîm.
- Lefel unigol.
Gellir cael gwybodaeth am fylchau sgiliau trwy:
- Gynllunio'r gweithlu.
- Arolygon cyflogeion.
- Arsylwadau rheolwyr.
- Data AD megis cofnodion damweiniau, lefelau salwch, trosiant, nifer y cwynion neu achosion disgyblu.
- Adborth gan gwsmeriaid a grwpiau ffocws.
- Cyfarfodydd cwmni / tîm ac arolygiadau.
- Adolygiadau ac arfarniadau perfformiad.
- Gofyn i gyflogeion am eu mewnbwn; maent yn fwy tebygol o brofi'r problemau dydd i ddydd sy'n codi pan fo bwlch sgiliau.
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Gweler ein templedi enghreifftiol o Ddadansoddi Anghenion Hyfforddi yma ac Arolwg Sgiliau yma
Cofiwch: Nid datblygu sgiliau yn unig sy’n bwysig. Meddyliwch am wybodaeth, ymddygiad ac agwedd eich cyflogeion, y bydd gan bob un ohonynt ran bwysig i'w chwarae yn llwyddiant eich busnes. Oes yna anghenion hyfforddi neu ddatblygu yn y meysydd hyn?
5. Cynllunio a dylunio'r math cywir o hyfforddiant
Wrth benderfynu sut i gynnig hyfforddiant i'ch cyflogeion, dylech ystyried y canlynol:
- p'un a fydd yr hyfforddiant yn fewnol, yn allanol neu'n seiliedig ar dechnoleg
- costau a manteision yr hyfforddiant
- y lle a'r adnoddau angenrheidiol os yw'r hyfforddiant yn cael ei wneud yn fewnol
- faint o amser sydd ei angen
Gall hyfforddiant fod yn hyblyg iawn. Gall pobl ddysgu yn y gwaith neu gartref neu wrth gael eu rhyddhau am ddiwrnod, ar-lein, ar gyrsiau ffurfiol. Gallant astudio ar gyfer cymwysterau llawn neu rannol neu ddim cymwysterau o gwbl.
Pa bynnag ddull rydych chi'n ei ddewis, mae angen i chi sicrhau bod gan bob cyflogai, gan gynnwys cyflogeion cartref, cyflogeion rhan-amser a staff anabl fynediad cyfartal i'r hyfforddiant y mae ei angen arnynt i gyflawni eu swydd.
Y dewis cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw p’un ai i ddewis hyfforddiant mewnol neu allanol ac mae gan bob opsiwn nifer o ddulliau hyfforddiant y gallwch eu defnyddio.
Gweler ein Canllaw i Ddewis eich Hyfforddiant yma
Cofiwch: Mae cyrsiau ar-lein yn ffordd effeithiol o ddarparu dysgu yn addas i fywyd unigolyn mewn a’r tu allan i’r gwaith.
Mae gan Wasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein Llywodraeth Cymru (BOSS) amrediad o gyrsiau ar-lein am ddim ar bynciau sy’n cynnwys:
- Coetsio i Arweinwyr
- Creu Timau Llwyddiannus
- Cyflwyniad i Reoli Prosiectau
- Cynefino Effeithiol
- Gwneud Penderfyniadau
- Llunio Cyflwyniadau Effeithiol
- Mentora Eraill yn Effeithiol
- Rheoli Absenoldeb
- Rheoli Eich Amser
- Pennu Amcanion a Monitro Perfformiad
- Ymdopi â Newid yn y Gweithle
Gellir cofrestru am ddim ac mae’n syml ar https://businesswales.gov.wales/boss/cy
Mae ystod o adnoddau ar-lein eraill ar gael i archwilio opsiynau dysgu hyblyg ymhellach. Er enghraifft, mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig cannoedd o gyrsiau am ddim sy'n ymdrin ȃ llawer o feysydd pwnc a allai fod yn addas i anghenion galwedigaethol eich staff neu eu gofynion datblygu gyrfa.
https://www.open.edu/openlearn/openlearn-cymru
Mae Cymru'n Gweithio yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cymorth ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth gan gynnwys catalog o ffynonellau dysgu ar-lein.
https://cymrungweithio.llyw.cymru/newid-dy-stori
6. Gweithredu hyfforddiant
Dyma rai awgrymiadau p'un a ydych chi'n dewis hyfforddi yn fewnol neu anfon cyflogeion ar gwrs: allanol:
- Dywedwch wrth bobl pam eu bod wedi cael eu dewis ar gyfer hyfforddiant. A yw er mwyn gwella sgiliau presennol, datblygu sgiliau newydd neu ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol?
- Rhannwch amcanion yr hyfforddiant gyda nhw fel eu bod yn gwybod yn benodol beth ddylent fod yn ei ddysgu. Dylai cyflogeion fod yn gallu ateb y cwestiwn “Sut y byddaf i'n elwa?”.
- Rhowch ddigon o rybudd i bobl cyn cynnal yr hyfforddiant.
- Rhowch gyfle i gyflogeion roi adborth ar ôl iddynt ddychwelyd o’r hyfforddiant. Mae rhywun sy'n dychwelyd o hyfforddiant fel arfer yn dymuno rhannu ei wybodaeth newydd a siarad am yr hyn mae wedi'i ddysgu. Gall methu â rhoi’r cyfle hwn effeithio ar ei gymhelliant a golygu bod yr hyfforddiant yn fuddsoddiad gwael.
7. Gwerthuso hyfforddiant
Dylai cyflogwr fonitro a yw buddsoddi mewn datblygu staff yn cyflawni’r canlyniadau a fwriedir ar wella’r busnes a pherfformiad unigol. Bydd hyn yn nodi lle i fuddsoddi orau a pa newidiadau efallai y bydd angen i’r cynllun a'r dull. Meddyliwch am y canlynol:
a) Cyn mynychu hyfforddiant
Dylai rheolwyr llinell gynnal briffiad cyn y cwrs gyda phob cyfranogwr. Y briffiad hwn yw'r lle i bob rheolwr gyflwyno trafodaeth am:
- Pam mae’r cyflogai wedi'i ddewis ar gyfer hyfforddiant (datblygiad yn y dyfodol, gofyniad gorfodol, gwella sgiliau).
- Beth yw'r pethau allweddol y mae'r hyfforddiant yn mynd i'w cwmpasu.
- Sut y caiff yr egwyddorion, y technegau a'r sgiliau a ddysgir eu cymhwyso'n ymarferol ar ôl i'r cyfranogwr ddychwelyd o'r digwyddiad hyfforddi.
Mae rheolwyr llinell hefyd yn y sefyllfa orau i sicrhau bod y cyfranogwyr wedi cwblhau unrhyw ddarllen neu ymarferion gofynnol ymlaen llaw. Yn bwysicaf oll, mae'r briffio cyn y cwrs yn anfon neges bwerus bod eich busnes yn gofalu am ddatblygiad y cyflogai a’i fod o ddifrif am weld manteision hyfforddiant.
b) Yn ystod yr hyfforddiant
Os yw'r hyfforddiant oddi ar y safle mewn coleg neu ddarparwr hyfforddiant yna gofynnwch i weld copïau o unrhyw ffurflenni gwerthuso a gwblheir gan eich cyflogeion. Os byddwch chi'n penderfynu darparu hyfforddiant yn fewnol, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n derbyn adborth ar ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir gennych.
c) Ar ôl yr hyfforddiant
Mae trosglwyddo sgiliau i'r gweithle ar ddiwedd y rhaglen hyfforddi yn dechrau gyda thrafodaeth ar ôl y cwrs. Gan barhau o'r briffiad cyn y cwrs, gofynnwch i reolwyr llinell adolygu gyda'r cyfranogwyr cynnwys yr hyfforddiant a phrofiadau'r cyfranogwyr. Mae'r drafodaeth ar ôl y cwrs yn gyfnod delfrydol i nodi, cynllunio a chytuno gyda'r cyflogai lle bydd y sgiliau'n cael eu cymhwyso ac i osod nodau penodol ar gyfer eu cymhwyso. Dau gwestiwn allweddol a awgrymir yw:
- Beth wnaethoch chi ei ddysgu ar y cwrs?
- Sut fyddwch chi'n gwneud hyn yn y gwaith?