Destek Accessible Technology Solutions

Mae Destek Accessible Technology Solutions, busnes o Bort Talbot, yn ehangu i gynnwys meysydd newydd a gwledydd newydd ac i'r talent ifanc newydd y mae'r cwmni wedi'u cyflogi y mae'r diolch am hynny.

Mae Destek Accessible Technology Solutions yn rhoi cyngor ar hygyrchedd ac yn sicrhau bod cwmniau yn cydymffurfio a deddfwriaeth sy'n ymwneud ag anabledd.  Mae hynny'n cynnwys hygyrchedd o ran y we, meddalwedd a thechnolegau symudol ynghyd a hygyrchedd o ran adeiladau.

Mae'r cwmni'n cyflogi wyth o weithwyr ynghyd a dau Brentis sydd wrthi'n astudio ar gyfer BTEC Lefel 3 Diploma mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid.  Mae'r cwmni hefyd yn cyflogi un prentis arall ers mis Medi y llynedd.

Dywedodd Andrea Kennedy, un o'r cyfarwyddddwyr: "Rydym yn falch iawn bod gennym dim mor dda.  Mae ganddynt amrywiaeth o anableddau ac hefyd mae ganddynt amrywiaeth eang o sgiliau.  Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i weithio yn ein diwidiant yn rhai prin ac rydym yn defnyddio llawer o ymgynghorwyr."

"Mae pethau technegol yn dod yn reddfol i'n prentisiaid ac yn aml mae gweithgareddau sy'n golygu gweithio wyneb yn wyneb ag eraill yn eu digalonni.  Mae'r rhaglen rydym ni wedi'i llunio yn rhoi hyder iddynt.  Mae un dyn ifanc wedi ennyn gymaint o hyder drwy'r rhaglen fel ei fod wedi cael cyfle i ddarparu cyrsiau yn Cyrus a Thwrci.  Bydd yn dechrau ar y gwaith hwnnw cyn bo hir. "Rydym yn sicrhau bod Cymru yn arwain ym maes hygyrchedd digidol ac rwy'n bwriadu parhau i fynd ati i greu ymgynghorwyr o'r radd flaenaf."