EE Ltd

Mae prentisiaethau yn rhan hollbwysig o EE, y cwmni cyfathrebu digidol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sy'n cyflogi dros 600 o staff yn y ganolfan gyswllt ym Merthyr Tudful.

Roedd y cwmni am gael ffrwd newydd o adnoddau, ffordd well o gadw staff yn ystod cyfnodau tyngedfennol, dull gweithredu newydd ar gyfer datblygu talent ar gyfer y dyfodol a chyfle i ddatblygu eu model ar gyfer cefnogi'r gymuned.

Diolch i'r rhaglen, mae lefelau anghydfodau a salwch wedi haneru, mae'r ymgysylltu â'r gweithiwyr wedi treblu, ac mae cynhyrchiant wedi gwella a chostau wedi gostwng. Mae £300,000 wedi’i arbed yn flynyddol mewn costau absenoldeb yn unig.

Datblygodd EE Raglen Prentisiaeth yn 2012 ar y cyd â Choleg Merthyr Tudful, a dechreuodd 90 o brentisiaid yn y flwyddyn gyntaf. Bellach, mae ganddynt dros 400 o brentisiaid.

“Roeddem yn ymwybodol bod tua 11 y cant o bobl 18 i 24 oed ym Merthyr Tudful yn hawlio Lwfans Ceiswyr Gwaith, ac roedd yn gyfle felly i fanteisio ar y grŵp oedran allweddol hwn,” meddai Claire Litten-Price, Rheolwr Gweithrediadau.

“Mae prentisiaid yn llawn egni a brwdfrydedd. Maent wedi tyfu gyda'r dechnoleg ac felly maent yn deall anghenion ein cwsmeriaid ni, sydd o hyd yn newid, i'r dim. Mae hynny'n dod â sgiliau newydd i EE, ac mae'n rhoi rhywbeth arbennig i ni o’i gyfuno gyda phrofiad ein gweithwyr presennol, sy'n ysgogi ein huchelgais o ran ein gwasanaeth."