Esgyn | Skills Gateway
Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Ffoniwch 03000 6 03000

Esgyn

Nod y rhaglen Esgyn yw trawsnewid bywydau pobl sy'n byw mewn catrefi di-waith drwy roi cyfle iddyn nhw ennill sgiliau hanfodol a sicrhau swydd. Ond beth amdanoch chi fel cyflogwr? Wel, gallai'r manteision fod yn bell-gyrhaedddol i'ch busnes chi hefyd.

Beth yw ei phwrpas

Erbyn diwedd 2017, nod Esgyn yw darparu 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl leol sy'n byw mewn cartrefi di-waith yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi darparu 2,000 o gyfleoedd ers iddi ddechrau ym mis Gorffennaf 2015 gan gynnwys cefnogi 350 o bobl i swyddi.

      Image of a builder

Sut mae'n gweithio

Ym mhob ardal Esgyn, mae brocerwyr cyflogaeth yn gweithio o fewn y gymuned leol i gael hyd i bobl a allai elwa o'r rhaglen.

Swydd gyntaf y Brocer yw sefydlu'r hyn sydd wedi bod yn atal yr unigolyn rhag cael hyd i waith. Beth bynnag yr achos, bydd y brocer yn gweithio'n agos gyda'r person i oresgyn y rhwystrau hynny fel ei fod ef neu hi'n gallu dechrau cael hyfforddiant neu ennill profiad yn y gweithle.

I sicrhau bod Esgyn mor fuddiol ag sy'n bosibl i'r unigolyn a'r cyflogwr, gofynnwn i fusnesau fel rhai chi i gynnig lleoliadau gwaith am o leiaf 16 awr yr wythnos am o leiaf 2 wythnos neu gyflogaeth go iawn.

 

 

Pwy sy'n gymwys?

Busnesau sydd wedi'u lleoli o fewn 1 o'r 9 ardal yma, sydd wedi'u seilio ar y 12 Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf, ledled Cymru:

  • Cwm Afan (Castell-nedd Port Talbot)
  • Ynys Môn  
  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir y Fflint
  • Gogledd-orllewin Abertawe
  • Gorllewin Taf (Rhondda Cynon Taf)

Beth sy 'na i'ch busnes chi?

  • cael gweithwyr ymroddedig, cymwys sydd â mentor personol i'w harwain drwy'r rhaglen
  • bod ar flaen y gystadleuaeth wrth chwilio am dalent newydd
  • creu gweithlu ffyniannus ac amrywiol
  • gostwng costau hyfforddi a recriwtio
  • trosiant staff llai

 

Mae'n BRYD sicrhau bod eich busnes yn Esgyn

Ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni

Rhestr Wirio Rhaglen
Ardal CyflenwiWedi'i leoli o fewn 1 o'r 9 maes ledled Cymru, yn seiliedig ar 12 Cymunedau yn Gyntaf Clystyrau: Cwm Afan (NPT), Ynys Môn, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Abertawe Gogledd Orllewin, Gorllewin Taf (RCT)   
Statws Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop?Nac Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru