G E Aviation

Fel cwmni byd-eang, mae’n rhaid i GE Aviation Wales sicrhau bod ganddo weithwyr tra chymwys, sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Mae’r cwmni’n buddsoddi dros £1 miliwn bob blwyddyn yn ei Raglen Brentisiaethau, yn cyflogi dros 130 o brentisiaid, interniaid a graddedigion peirianneg a busnes ar hyn o bryd, ac wedi rhoi cefnogaeth i fwy na 500 o brentisiaid dros yr ugain mlynedd diwethaf.

“Mae GE Aviation Wales yn ymfalchïo mewn darparu cyfleoedd gyrfa i unigolion talentog ac rydym yn falch tu hwnt o’n cynllun prentisiaethau. Mae’r twf y mae’r busnes yn ei weld yn sgil ei raglen brentisiaethau yn hanfodol, ac yn sicrhau bod sgiliau peirianneg yn parhau i fod yn gynaliadwy ar draws De Cymru. I raglenni fel hyn y mae’r diolch ein bod yn gallu ehangu galluedd technolegol ein gweithwyr a datblygu sgiliau cadarn, sy’n rhoi enw i Gymru fel lle allweddol i fasnachu.

Mae’n rhaglen brentisiaeth wedi hen ennill ei phlwyf yn y busnes ac mae llawer o barch iddi ledled GE ei hun a’r gymuned ehangach.

Rydym yn rhoi pwys mawr ar  ddatblygu ein rhaglenni hyfforddi ac mae prentisiaid yn rhan hanfodol o hyn. Maent yn creu awyrgylch ddeinamig y gallwn ddatblygu ein busnes ynddi gan gynnal safle’r busnes fel arweinydd byd-eang yn y maes. O ganlyniad i’n buddsoddiad mewn hyfforddiant, rydym yn gallu elwa ar y manteision o gefnogi prentisiaid drwy’r rhaglen hon. Canlyniad hyn yw bod gennym weithlu sy’n broffesiynol ac yn llawn cymhelliant sy’n meddu ar sgiliau sydd wedi’u teilwra i’r busnes a’r sector. Drwy fuddsoddi’n barhaus mewn sgiliau a hyfforddiant, rydym wedi gallu datblygu ein ffrwd o dalent ar gyfer y dyfodol gan roi hwb arall i’n perfformiad gweithredol a chynyddu cynhyrchiant.

Mae’r rhaglen brentisiaethau yn helpu i greu ffrwd o dalent newydd ar gyfer y busnes, gan greu gweithlu sy’n meddu ar sgiliau arbenigol,  yn wybodus ac yn llawn cymhelliant. Mae  hefyd yn helpu i gael gwared â’r bygythiad o brinder sgiliau ac yn cynnal sgiliau a galluoedd yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn ffordd wych o ffrwyno talent newydd a ffres i’r busnes - talent sy’n llawn brwdfrydedd ac sy’n fodlon herio’r sefyllfa fel y mae hi a gwella prosesau. Mae llawer o’n prentisiaid yn mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd cryf a hir o fewn y diwydiant awyrennau.”

Louise Burnell, Cydlynydd Prentisiaethau GE Aviation