Innogy Renewables

Gydag arbenigedd mewn ynni adnewyddadwy, sefydlodd Innogy UK ei adran cynnal a chadw fewnol - ac felly roedd am ddatblygu rhaglen brentisiaeth i ddiwallu ei anghenion.

Aethpwyd ati feithrin perthynas a Mark McDonough, aseswr a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Ganolfan Hyfforddi Tyrbinau Gwynt ar gampws Llandrillo-yn-rhos Grwp Llandrillo Menia. Gyda'i gilydd, maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddarparu amgylchedd gwaith realistig ac adnoddau penodol i'r diwydiant sy'n galluogi prentisiaid i ddysgu trwy ddefnyddio offer a pheiriannau penodol i dyrbinau.

Y Brentisiaeth yw'r gyntaf o'i math yng Nghymru ac mae 26 o brentisiaid wedi cael eu recriwtio ers ei sefydlu. Mae'n cynnig fframweithiau mewn gweithrediadau tyrbinau gwynt, cynhyrchu a gweithrediadau peirianneg.