Mitel

Mae'r gystadleuaeth a’r twf yn y byd cyfathrebu mewn busnes, meddalwedd cydgrynhoi a gwasanaethau yn golygu bod Mitel, cwmni o Gil-y-coed yn gorfod recriwtio a chadw staff sy'n deall y sector â'r cwsmeriaid yn dda.

Mae gan Mitel, cwmni sy'n rhan o Nasdaq, dros 60 miliwn o ddefnyddwyr mewn 100 o wledydd. Mitel sy'n arwain o ran cyfranddaliadau’r farchnad yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, ac mae'n cael ei gydnabod  fel arweinydd ym maes cyfathrebu unedig.

Mae Mitel yn recriwtio ac yn hyfforddi prentisiaid yn ei is-adran gwasanaethau i gwsmeriaid er mwyn mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau, gan hyfforddi pobl ifanc nad oes ganddynt unrhyw sgiliau technegol blaenorol.  Mae'r prentisiaid presennol yn canolbwyntio ar gefnogaeth dechnegol, ac yn dilyn Fframwaith Prentisiaethau Proffesiynol TG a Theleathrebu. 

Mae'n rhaglen brentisiaethau yn rhan greiddiol o'r strategaeth sydd wrth galon Mitel, sy'n gysylltiedig ag ehangu ein busnes cwmwl a'r busnes yn y farchnad canolfannau cyswllt," meddai Tim Gwatkin, Rheolwr Adnoddau Dynol.

"Roedd dod o hyd i ymgeiswyr sydd â'r gymysgedd gywir o sgiliau technegol a'r gallu i siarad â chwsmeriaid a rhoi'r gefnogaeth gywir iddynt yn dasg gynyddol anodd i ni."

Gan weithio â'r darparwr hyfforddiant, Acorn Learning Solutions, mae'r cwmni wedi datblygu rhaglen brentisiaethau dwy flynedd effeithiol iawn.

"Mae'r rhaglen brentisiaethau yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau yn y sector TG ac felly maent yn ychwanegu gwir werth at y busnes," meddai Sean Driscoll, Rheolwr Datblygu Corfforaethol yn Acorn Learning Solutions.