Mae safle cynhyrchu esgyll Airbus â 6000 o weithwyr yng Ngogledd Cymru’n codi i her galw cynyddol y byd am awyrennau trwy fuddsoddi, â chefnogaeth llywodraeth Cymru, mewn rhaglen eang o brentisiaethau sy’n golygu bod oddeutu 300 o bobl ifanc dan hyfforddiant ar unrhyw amser penodol.

Piblinell brentisiaeth yn helpu ffatri esgyll i gwrdd â her galw cynyddol y byd.

Airbus

Fel canolfan peirianneg o safon byd-eang, mae Airbus ym Mrychdyn yng Ngogledd Cymru’n deall yr hyn mae’n ei gymryd i godi at y brig mewn marchnad hedfan sy’n ehangu a sy’n gystadleuol iawn.

Yng nghartref gwreiddiol yr awyrennau eiconig Comet a Mosquito, erbyn hyn mae’r cwmni’n cyflogi mwy na 6,000 o bobl wrth weithgynhyrchu mwy na 1,000 o esgyll y flwyddyn er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol gan gwmnïau hedfan ledled y byd.

Mae hyn yn cynnwys contractau o’r Dwyrain, fel y 25 ychwanegol o awyrennau ychwanegol A330-300 a archebwyd gan Air Asia yn Rhagfyr 2013, a’r galw ledled y byd hefyd am yr awyren A350 XWB sy’n dechrau cael ei chynhyrchu yn 2014.

Er mwyn codi i heriau fel y rhain, mae Airbus nid yn unig eisiau sgiliau ei weithlu cynhyrchu profiadol iawn ond hefyd llif cyson o bobl ifanc uchel ei ysgogiad. Dyma’r bobl ifanc dalentog sy’n elwa o ymrwymiad y cwmni i hyfforddiant prentisiaeth llym, yn cael ei ddilyn gan ddysgu gydol gyrfa.

Er mwyn helpu i gyflawni ei nodau ehangu uchelgeisiol dros y blynyddoedd, mae safle Brychdyn wedi bod yn un o eiriolwyr mwyaf ymrwymedig a brwdfrydig gyriad Llywodraeth Cymru i godi sgiliau yn y gweithle.

Mae’r cawr byd-eang â phencadlys yn Ffrainc, sydd ag is-gwmnïau ym mherchnogaeth lwyr yn yr Unol Daleithiau, Tsieina, Siapan a’r Dwyrain Canol, wedi rhoi pleidlais o hyder i’w weithlu yng Ngogledd Cymru, lle mae bron i 600 o bobl ar raglenni hyfforddiant ‘gyrfaoedd cynnar’.

Rydym erioed wedi hyrwyddo’r egwyddor o ddysgu gydol oes ac wedi penderfynu defnyddio’r model prentisiaeth fel un o’r prif gerbydau am hyn. Mae’n dangos beth gellir ei wneud pan yw partneriaeth yn gweithio

Mae oddeutu 300 o’r rhain yn dilyn fframweithiau prentisiaeth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau mewn cynhyrchiant, gweithgynhyrchu, dylunio peirianneg, ansawdd a logisteg cadwyn gyflenwi.

Ymhlith ei gydrannau lluosog, mae’r hyfforddiant dwfn hwn yn cwmpasu ffitio ymarferol, systemau trydanol a thanwydd, rheolyddion hedfan, hydroleg, niwmateg a chynhaliaeth cyfarpar ac offer.

Meddai Gary Griffiths, pennaeth rhaglenni gyrfaoedd cynnar gydag Airbus: “Rydym yn elwa fel cwmni trwy gyflwyno syniadau newydd, ymagweddau ffres, a phobl ifanc uchel eu hysgogiad a brwdfrydig i gwrdd â galwadau’r rhaglenni adeiladu-uchel rydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd.”

Mae Airbus yn hyfforddi prentisiaid ar lefelau amrywiol, â phob rhaglen yn parhau am dair blynedd ac yn cyfuno astudiaethau coleg neu brifysgol gyda hyfforddiant ymarferol. Gall pobl ifanc ddewis rhwng opsiynau mynediad gwahanol yn ôl eu lefel o gyflawniad addysgol a galluoedd.

Eglurodd Gary: “Rydym erioed wedi hyrwyddo’r egwyddor o ddysgu gydol oes ac wedi penderfynu defnyddio’r model prentisiaeth fel un o’r prif gerbydau am hyn. Rydym wedi datblygu prentisiaeth cyflogeion presennol ar gyfer ein gweithlu lled-grefftus er mwyn eu cyflenwi â’r hyfforddiant a gwybodaeth i ddod yn weithwyr crefftus. Hefyd rydym wedi cynnal rhaglen debyg lle rydym wedi cymryd pobl grefftus a’u rhoi trwy brentisiaeth uwch er mwyn iddynt ddod yn beirianwyr cymwys. Mae’n dangos beth gellir ei wneud pan yw partneriaeth yn gweithio.”


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen