Oes o Fuddsoddi-0
Pwysigrwydd hyfforddi gweithwyr o bob oed
Mae’r sgiliau sy’n wedi’u meithrin dros y blynyddoedd o fantais enfawr i unrhyw fusnes. Felly, mae cadw gweithwyr hŷn, profiadol, a buddsoddi ynddyn nhw, yn hanfodol ar gyfer bod yn gystadleuol.
Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach heddiw oherwydd mae’r tueddiadau yn y boblogaeth yn golygu, erbyn 2022, mai dim ond hanner cymaint o bobl ifanc fydd ar gael i lenwi swyddi gwag.
Mae cyfle enfawr yn codi i ddal i elwa ar wybodaeth pobl hŷn wrth i’r newidiadau mewn pensiynau berswadio pobl i ymestyn eu bywydau gwaith, ac, yr un pryd, i drechu’r prinder staff sy’n prysur ddatblygu.
Manteision buddsoddi mewn sgiliau
Mae buddsoddi i wella sgiliau gweithwyr o unrhyw oedran yn gwneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant eich busnes. Mae hynny’n cynnwys prentisiaid neu rhai'n gynnar ar eu gyrfa ond dylai hynny hefyd gynnwys staff hŷn profiadol a sgilgar sy'n asgwrn cefn y gweithlu.
Mae rhai cyflogwyr yn ofni y bydd staff yn gadael ar ôl cael eu hyfforddi a mynd â’u sgiliau i rywle arall. Ond, mae peidio â hyfforddi’n creu mwy o risg - mae staff rhwystredig yn debycach o symud ymlaen a draenio’r busnes o adnodd hanfodol. Ac mae staff hŷn yn fwy tebygol o aros gyda chi beth bynnag.
Gyda llai o dalent ifanc yn ymuno â’r gweithlu allwch chi ddim fforddio colli’r bobl sgilgar a phrofiadol.
Beth ddylwn i ei wneud ynghylch y prinder gweithwyr sy’n datblygu
Yr ateb, wrth gwrs, yw sicrhau eich bod yn dal eich gafael yn eich gweithwyr hŷn ac yn dal i ddatblygu’u sgiliau.
Amcangyfrifir y bydd traean o’r boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru dros 50 oed ymhen pum mlynedd ac, wrth iddyn nhw gyrraedd yr oedran ymddeol draddodiadol, y bydd yna lai o bobl ifanc i gymryd eu lle.
Oherwydd y newidiadau mewn pensiynau, gallai rhywun yn ei 50au fod â blynyddoedd maith o weithio o’i blaen. Mae hyn yn gyfle i chi, fel cyflogwr, fanteisio i’r eithaf ar hynny trwy fuddsoddi i gael y gweithwyr hynny mor gynhyrchiol â phosibl a sicrhau eu bod yn rhannu eu sgiliau gyda’u cydweithwyr iau.
Beth alla i ei wneud i berswadio gweithwyr hŷn sgilgar i aros
- Sicrhau fod eich prosesau recriwtio'n addas at bob oedran
- Gwneud yn siŵr fod eich gweithle yn croesawu pob cenhedlaeth o bob oedran
- Cynnwys pob oedran yn eich cynlluniau datblygu sgiliau
- Edrych ar eich gweithlu chi’ch hunan i weld pa mor dibynnol ydych chi ar weithwyr hŷn
- Rhoi dewisiadau hyblyg i’w gwneud yn haws i weithwyr hŷn aros yn hirach; er enghraifft cyflwyno ymddeoliad cam wrth gam, rhan amser neu oriau hyblyg
- Herio eich rhagfarnau chi eich hunan a meddwl yn greadigol ynghylch sut y gallai’ch busnes gweithio’n wahanol
- Teilwra swydd i leihau gwaith corfforol a allai lesteirio gweithwyr hŷn
- Rhoi cyfle i weithwyr hŷn drosglwyddo eu sgiliau a’u profiad i gydweithwyr ifanc.
MAE'N AMSER i fuddsoddi yn eich gweithwyr hŷn
Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000, cysylltwch â ni neu darllenwch yr argymhellion isod.