Darparu prentisiaethau yng Nghymru

Mae'r Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion busnesau Cymru a'r economi ehangach. Fe'i cynlluniwyd i gynyddu lefelau sgiliau mewn meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys lle yr adroddwyd bod yna brinder.

Ein ymrwymiad

Datblygwyd y polisi a'i gynllun gweithredu pum mlynedd mewn ymgynghoriad â busnesau, ac mae'n egluro sut y byddwn yn cefnogi cyflenwi'r ymrwymiad a wnaed yn ei maniffesto ac yn Symud Cymru Ymlaen:

  • Cynyddu'r nifer o brentisiaid 16-19 oed drwy gynyddu'r niferoedd sy'n dewis mynd i brentisiaethau ansawdd uchel wrth adael yr ysgol
  • Mynd i'r afael â phrinder sgiliau drwy ddatblygu prentisiaethau yn benodol mewn sectorau twf a sectorau sy'n datblygu fel TGCh, Peirianneg, Adeiladu a Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
  • Datblygu sgiliau lefel uwch drwy ganolbwyntio ar brentisiaethau ar lefel 4 ac uwch lle mae'r canlyniadau'n tueddu i fod yn uwch
  • Datblygu llwybrau sgiliau drwy integreiddio prentisiaethau i'r system addysg ehangach a'i gwneud yn haws i rywun fynd i brentisiaeth drwy lwybr dysgu arall.

Ardoll Brentisiaethau

Mae’r Ardoll Prentisiaethau yn dreth gyflogaeth ledled y DU sydd wedi cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU ac a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2017. Mae’r Ardoll yn berthnasol i’r DU i gyd, a bydd yn rhaid i gyflogwyr sydd â ‘bil cyflogau’ blynyddol o £3 miliwn neu ragor dalu’r Ardoll.

Bydd yn cael ei chasglu ar draws y DU gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE).

Prentisiaethau: cliciwch yma i gofrestru eich diddordeb a chael gwybod sut y gallai eich busnes elwa.

Yn dilyn cyhoeddiad cychwynnol yng nghyllideb haf 2015, mae’r Canghellor wedi cadarnhau y bydd yn rhaid i gyflogwyr sydd â chyfanswm bil cyflogau o £3 miliwn neu fwy dalu tuag at y rhaglen prentisiaethau genedlaethol.

Pwy sy’n talu’r Ardoll?

Mae'r Ardoll yn berthnasol i holl gyflogwyr y DU a gan bob cyflogwr hyd at £15,000 o lwfans yn erbyn eu Hardoll. Mae hyn yn golygu yn rhaid i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat sydd â ‘bil cyflogau’ blynyddol o £3 miliwn neu fwy dalu0.5% o hwnnw i’r Ardoll.

Sut mae’r Ardoll yn cael ei chyfrifo?

Mae'r Ardoll wedi’i gosod ar 0.5% o gyfanswm y ‘bil cyflogau’ blynyddol ac ni fydd yn cynnwys buddion mewn nwyddau ond disgwylir y bydd yn cynnwys taliadau eraill sy’n destun didyniadau PAYE a/neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd yr Ardoll yn cael ei chasglu drwy'r System Gwybodaeth Amser Real ochr yn ochr â Threth Incwm a chyfraniadau YG.

Pa ostyngiadau sydd ar gael?

Bydd cyflogwyr yn cael lwfans o£15,000 i’w osod yn erbyn yr Ardoll. O fis Ebrill 2016 hefyd, bydd eithriad ar gyfer cyfraniadau YG Cyflogwyr Dosbarth 1 ar gyfer prentisiaid cymwys o dan 25 oed.

Pam mae’r system prentisiaethau’n wahanol yng Nghymru?

Mae sgiliau, gan gynnwys prentisiaethau, yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Yng Nghymru, rydym wedi datblygu system prentisiaethau i ddiwallu’r galw ymysg cyflogwyr er mwyn sbarduno twf a ffyniant.

Mae gennym eisoes record dda o ran ansawdd, gyda chyfraddau cwblhau fframweithiau’n gyson dros 80%.

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu o leiaf 125,000 o brentisiaethau o ansawdd da yn ystod y tymor hwn, a'r rheini ar gael i bobl o bob oed.

Rydym wedi sefydlu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i ymgysylltu â chyflogwyr ac er mwyn i ni gael gwybodaeth am anghenion a bylchau o ran sgiliau, a bydd ein darpariaeth yn adlewyrchu'r diffygion hyn mewn sgiliau.

Nid oes angen i gyflogwyr aros nes y cyflwynir yr Ardoll er mwyn manteisio ar ein rhaglen prentisiaethau. Mae ein rhaglen prentisiaethau ar gael i bob cyflogwr, gydag arian yn cael ei flaenoriaethu i ddiwallu anghenion economaidd Cymru.

Sut y bydd yr effaith ar gyflogwyr Ardoll â gweithlu ar draws ffiniau?

Ni waeth ymhle mae’r prentis yn byw, neu ymhle mae lleoliad y cyflogwr, arian a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fydd yn berthnasol pan mae prentis yn gweithio yng Nghymru am 51% neu ragor o’i amser ewch i businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy  - e-bostio Unedprentisiaeth@llyw.cymru

Ni waeth ymhle mae’r prentis yn byw, trefniadau ariannu/talebau a blaenoriaethau Llywodraeth y DU fydd yn berthnasol pan mae prentis yn gweithio yn Lloegr am 50% neu ragoro’i amser:- ffoniwch yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ar 08000 150 600 - ewch i gov.uk/government/publications/apprenticeship-levy 

1. Beth ydy’r Ardoll Prentisiaethau?

Mae’r Ardoll Prentisiaethau yn dreth ar gyflogaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi dod i rym ar 6 Ebrill 2017. Mae’n cael ei chasglu ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd pob cyflogwr (sector cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector) sydd â bil cyflogau o fwy na £3 miliwn bob blwyddyn yn talu'r ardoll.

Cyfradd yr ardoll yw 0.5% o’r bil cyflogau; y mae lwfans o £15,000 bob blwyddyn. Bydd yr ardoll yn cael ei thalu i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy’r broses PAYE.

2. Sut bydd arian yr Ardoll yn dod i Gymru?

Fformiwla Barne. fydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar y dyraniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Mae’r fformiwla yn cyfrifo beth fydd ‘cyfran’ Cymru yn sgil newidiadau i gyllidebau Adrannol Whitehall.

Er i Adolygiad Gwariant 2015 Llywodraeth y DU ddyrannu adnoddau i Adrannau Whitehall ar gyfer rhaglenni sy’n cael eu cyllido gan yr Ardoll Prentisiaethau, cafodd yr ychwanegiadau hyn eu rhoi ar waith yn dilyn toriadau a wnaed i raglenni eraill, gan gynnwys rhaglenni prentisiaethau sydd eisoes yn bodoli.

Mae Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn 2015 yn golygu y bydd cyllideb Lywodraeth Cymru yn parhau i ostwng mewn termau real dros y blynyddoedd nesaf.

Nid yw’r arian sy’n cael ei ddarparu i Gymru wedi cael ei glustnodi. Un o egwyddorion sylfaenol datganoli yw bod Gweinidogion Cymru yn dyrannu adnoddau yn eu Cyllideb yn ôl blaenoriaethau Cymru, ac yn unol â chymeradwyaeth y Cynulliad.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwybod faint mae cyflogwyr Cymru wedi’i dalu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

3. Pa effaith fydd yr ardoll yn ei chael ar y ddarpariaeth yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn deall yr effaith y bydd cyflwyno’r ardoll yn ei chael yng Nghymru, yn enwedig yr effaith ar ein setliad ariannol.

Bydd yr ardoll yn codi fwy byth o ymwybyddiaeth am brentisiaethau a’r galw amdanynt a datblygu gweithluoedd ymysg y rheini fydd yn talu’r ardoll.

Er bod rhai agweddau’n dal yn aneglur, mae’n dal angen i Lywodraeth Cymru gynllunio’r ddarpariaeth a chyflawni ei blaenoriaethau.

4. A fydd system talebau digidol yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr?

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno system talebau digidol. Nid ydym wedi gweld tystiolaeth sy’n dangos y byddai system talebau yn gwella ansawdd y system. Yr unig beth y byddai’n ei wneud fyddai creu biwrocratiaeth ymysg cyflogwyr ac ansicrwydd o ran sut byddai’r rheini nad ydynt yn talu’r ardoll yn cael eu cefnogi.

Mae llawer o anawsterau wedi bod yn y gorffennol hefyd gyda’r systemau talebau ar gyfer addysg a hyfforddiant yn y DU. Mae llawer o gyflogwyr a chyrff cyflogwyr wedi beirniadu’r system sy’n cael ei chynnig yn Lloegr.

5. Pam mae’r system brentisiaeth yn wahanol yng Nghymru?

Mae sgiliau, gan gynnwys prentisiaethau, yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ei system prentisiaethau i fodloni anghenion a blaenoriaethau Cymru. Mae Cymru yn canolbwyntio ar ansawdd i sicrhau gwerth am arian.

Mae darparu a chyllido prentisiaethau yn cael ei flaenoriaethu ar sail anghenion yr economi a chyflogwyr. Er enghraifft, rydym wedi sefydlu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gysylltu â chyflogwyr ac i roi’r wybodaeth i ni am y sgiliau sydd eu hangen a’r bylchau mewn sgiliau.

Rydym yn blaenoriaethu ein darpariaeth yn unol â’r anghenion y mae tystiolaeth ar gael ohonynt.

6. Sut mae prentisiaethau’n cael eu darparu yng Nghymru?

Mae prentisiaethau’n cael eu darparu a’u gweinyddu trwy rwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau.

Mae’r ddarpariaeth yr ydym yn ei chomisiynu bob blwyddyn wedi’i seilio ar wybodaeth gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a gwybodaeth a gawn yn uniongyrchol gan gyflogwyr.

Er enghraifft, y llynedd, fe wnaethom ymgynghori â chyflogwyr yn ffurfiol am ein blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer prentisiaethau.

7. Beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer darparu prentisiaethau Llywodraeth Cymru?

Cyflawni ein hymrwymiad i greu o leiaf 125,000 o brentisiaethau o ansawdd i bob oed - gan roi cyfle i lawer mwy o gyflogwyr ddod yn rhan o’r rhaglen. 

  • Cynyddu nifer y prentisiaethau uwch a threialu prentisiaethau gradd yn arbennig ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a llwybrau proffesiynol - er mwyn bodloni anghenion yr economi yn well.
  • Gwella hygrededd prentisiaethau a'r gwaith o’u hintegreiddio yn y system addysg er mwyn cael mwy o bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol (16-19) i ymuno â'r rhaglen.
  • Diwygio systemau er mwyn datblygu fframwaith o gynnwys dysgu - er mwyn gallu ymateb yn well i anghenion cyflogwyr, anghenion sy’n aml yn newid yn gyflym.
  • Datblygu cyfleoedd, fel y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a fydd yn galluogi'r holl randdeiliaid i gydweithio i greu system gynaliadwy, gryfach sy’n cael ei thywys gan wybodaeth.
  • Cadw cyfraddau cwblhau ar 80% a mwy a chyflwyno mesurau ansawdd ychwanegol fel data cyrchfan a fydd yn edrych ar enillion a buddiannau eraill yn y dyfodol.

8. Sut bydd yr Ardoll yn effeithio ar gyflogwyr sydd â gweithlu ar ddwy ochr y ffin?

Ni waeth ymhle mae’r prentis yn byw, neu ymhle mae lleoliad y cyflogwr, arian a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fydd yn berthnasol pan mae prentis yn gweithio yng Nghymru am 51% neu ragor o’i amser:

PECYN CYMORTH I GYFLOGWYR
e-bostiwch: Unedprentisiaeth@llyw.cymru

Ni waeth ymhle mae’r prentis yn byw, trefniadau ariannu/talebau a blaenoriaethau Llywodraeth y DU fydd yn berthnasol pan mae prentis yn gweithio yn Lloegr am 50% neu ragor o’i amser:- gov.uk/government/publications/apprenticeship-levy 

9. Sut galla i gymryd rhan yn y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru

I gyflogwyr sydd am fanteisio ar Raglen Prentisiaethau Cymru, cysylltwch â Phorth Sgiliau Busnes Cymru Llywodraeth Cymru:• 03000 6 03000 (Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg).
https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau

Os oes gennych gwestiynau penodol am ofynion hyfforddiant prentisiaeth neu am yr Ardoll, cewch gyngor gan Uned Prentisiaethau Llywodraeth Cymru:
Unedprentisiaeth@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Prentisiaethau Lloegr, cysylltwch ag
Adran Addysg Llywodraeth y DU:
gov.uk/government/publications/apprenticeship-levy 

10. Beth ydy'r Porth Sgiliau?

Mae’r Porth Sgiliau yn system ymgysylltu, asesu ac at gyfeirio sy’n darparu gwasanaeth di-dor i fusnesau ac unigolion sy’n chwilio am help gyda’u sgiliau yng Nghymru. Mae’n 

sylfaen i’r broses o gyflawni a darparu man cysylltu i’r portffolio integredig ehangach o ddarparwyr swyddi a sgiliau yng Nghymru.

Nod y Porth Sgiliau yw helpu cyflogwyr sy’n awyddus i recriwtio a/neu wella sgiliau eu gweithluoedd presennol ac unigolion sy’n ddi-waith, y rheini sy’n barod i weithio ac sy’n 

awyddus i wella eu cyfleoedd i ddod o hyd i swydd.

11. Sut alla i ymgysylltu  â’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol?

Mae darparu sgiliau rhanbarthol yn ffocws polisi pwysig i'r dyfodol ac mae’n rhan o’r agenda gynyddol sydd wedi’i gosod yn erbyn cyd-destun lle mae’r dirwedd sgiliau sy’n canolbwyntio ar y rhanbarthau yn cael ei sbarduno gan Lywodraeth y DU ac yn canolbwyntio ar y sgiliau rhanbarthol.

Mae’r Ardaloedd Menter, y Dinas-ranbarthau a’r Bidiau Twf oll yn rhan o hyn. Y nod yng Nghymru yw ysgogi swyddi a sgiliau drwy annog darparwyr sgiliau i gysylltu eu cynlluniau cyflawni a chyllido â chyfleoedd y mae buddsoddiadau strategol a thwf busnes wedi’u creu yn eu rhanbarthau.

Mae’r tair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn y Gogledd, y De-orllewin a Chanolbarth a De-ddwyrain Cymru wedi hen ennill eu plwyf ac mae ganddynt strwythurau cadarn yn eu lle a chysylltiadau cadarnhaol gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid pwysig yn y rhanbarthau y maent yn eu cynrychioli. Dyma fanylion y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol:

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Sian Lloyd Roberts: SianLloydRoberts@gwynedd.llyw.cymru

neu: https://northwaleseab.co.uk/cy

Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De Ddwyrain Cymru
Cyswllt: RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk

neu:    https://www.cardiffcapitalregion.wales/cy/ynghlych/partneriaeth-sgiliau/https://www.cardiffcapitalregion.wales/cy/ynghlych/partneriaeth-sgiliau/ 

Partneriaeth Dysgu Sgiliau Ranbarthol De orllewin a Chanolbarth Cymru
Cyswllt Jane Lewis: jelewis@carmarthenshire.gov.uk

neu:  http://www.rlp.org.uk/cym/home

 

I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, cliciwch yma https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau

I gyflogwyr sy'n dymuno adolygu a chwilio am fframwaith prentisiaeth, cliciwch yma i weld rhestr o'r ddarpariaeth sydd ar gael.

I gyflogwyr sy'n dymuno cysylltu ag un o'n darparwyr hyfforddiant cymeradwy, cliciwch yma i weld rhestr o'r darparwyr a'r manylion cyswllt.

Os oes gennych gwestiynau penodol am yr ardoll neu unrhyw ofynion ychwanegol o ran hyfforddiant prentisiaeth, e-bostiwch Uned Prentisiaethau Llywodraeth Cymru:

Unedprentisiaeth@llyw.cymru

Fframweithiau Prentisiaethau

I weld gwybodaeth am y Fframweithiau Prentisiaethau a ddarperir yng Nghymru.