Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol

Beth yw e?

Mae Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol yn helpu pobl sydd wedi'u tangynrychioli yn y farchnad lafur, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn, a phobl anabl; pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; a phobl sydd â chyfrifoldebau gofal.

Gall cyflogwyr ddefnyddio nifer o raglenni i gyflenwi eu gweithlu sy’n gweithredu ar draws Cymru, gyda thimau cyflenwi lleol ym mhob ardal. Mae’r rhain yn cynnwys Cymunedau am Waith, Cymunedau am Waith a Mwy, a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth.

Mae cymorth arbenigol ar gael i chi a’r unigolyn gan dimau lleol sy’n gweithio’n ddiwyd gyda’u cyfranogwyr i’w helpu i oresgyn eu rhwystrau, boed hynny’n hyfforddiant, gofal plant, teithio neu unrhyw beth arall sy’n eu rhwystro rhag cael swydd.

Byddwch yn gweithio gyda swyddogion a fydd yn cefnogi eich anghenion recriwtio ac yn canfod cyfranogwyr sydd â’r sgiliau sy’n addas i anghenion eich busnes.

Os oes gennych nifer o swyddi gwag, gallent ddatblygu rhaglen bwrpasol i gyflenwi nifer o ymgeiswyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i chi.

Mae Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol yn rhan o’r Warant i Bobl Ifanc ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed.

Pwy sy’n gymwys?

  • Busnesau o unrhyw faint mewn unrhyw sector yng Nghymru.

Beth yw’r manteision?

Mae busnesau sy’n recriwtio pobl drwy’r rhaglenni hyn yn helpu’r bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur i gael gwaith. Byddwch yn cael unigolion llawn cymhelliant sy’n benderfynol o wneud y mwyaf o’r cyfle i ymuno â’r farchnad lafur, gyda chymorth gan Swyddog Cyswllt Cyflogwyr a mentoriaid a fydd yn dod o hyd i gyfranogwyr. Os byddwch yn recriwtio person ifanc 16-24 oed, byddwch hefyd yn cymryd rhan yn y Warant i Bobl Ifanc.