Cam Nesa

Mae Cam Nesa yn gyfle cyffrous i fusnesau helpu pobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ddatblygu sgiliau parod i waith a chael mynediad at gyflogaeth ystyrlon. 

Gall busnesau yn Abertawe, Ceredigion, Chastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gâr gymryd rhan yn Cam Nesa i ddarparu cyfleoedd, yn cynnwys:

  • Gwirfoddoli
  • Lleoliadau gwaith
  • Prentisiaethau
  • Cyflogaeth lawn amser

Dyma’r manteision i fusnesau

Bydd busnesau yn:

  • Cael mynediad i weithwyr newydd yn y farchnad lafur a ariennir drwy gymhorthdal.
  • Derbyn unigolion sy’n cael eu dewis yn gweddu i natur eich busnes. 
  • Datblygu pobl ifanc yn eich ardal leol.
  • Cyfrannu at dwf yr economi leol.

Y camau nesaf

Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Abertawe, Ceredigion, Chastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gâr
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Cyngor Sir Penfro