Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru

Mae asiantaethau cyflogaeth a sefydliadau elusennol yr ymddiriedir ynddynt (gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog ac adrannau'r llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau) wedi ymuno gyda'r cwmniau galwadau mawrion yng Nghymru i helpu i hyfforddi pobl ddi-waith yn y sgiliau sydd eu hangen i ganfod gwaith yn y sector canolfannau galwadau.

Dyma'r manteision i fusnesau

Mae Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru'n bartneriaeth sy'n gweithio'n wych i bawb perthnasol. Mae'r sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ddi-waith yn eu helpu i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i gafod gwaith mewn canolfan alwadau a chychwyn gyrfa gyffrous yn y sector yma sy'n tyfu. Bydd modd i'ch canolfan alwadau ddefnyddio ffrwd reolaidd o recriwtiaid brwdfrydig newydd sydd a'r sgiliau digonol. Ac fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae canfod y staff cywir gyda'r ymroddiad cywir yn hanfodol i unrhyw fusnes sy'n gweithredu canolfan gyswllt.

Fel partner i Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, byddwch yn gallu cyfweld ymgeiswyr brwdfrydig sydd wedi derbyn hyfforddiant cynhwysfawr mewn gwaith canolfannau cyswllt yn barod gan ddarparwyr hyfforddiant diwydiannol blaenllaw yng Nghymru. Nid yn unig y byddwch yn gostwng costau recriwtio a hyfforddi, bydd eich sefydliad yn cefnogi'r gymuned leol hefyd drwy roi cyfle i bobl ddi-waith roi hwb i'w gyrfaoedd.

Pa gymorth sydd are gael i chi?

Ers 2006, dim ond un ffocws unswydd fu gan ein cyrsiau hyfforddi cyn-gyflogaeth - sef helpu rhai o'r cwmniau galwadau mwyaf yng Nghymru i gael gafael ar staff lefel mynediad, brwdfrydig sydd wedi'u hyfforddi. Mae'n hyfforddiant sydd wedi ei ysgrifennu a'i ddyfeisio gan gwmniau galwadau yn arbennig i gwmniau galwadau.

Ers mwy na deng mlynedd, rydym wedi profi po fwyaf yw'r ffocws a rowch ar yr hyfforddiant, y mwyaf effeithiol fydd yr hyfforddiant. Darperir hyfforddiant gan ein grwp o arbenigwyr a ddetholwyd yn ofalus, y mae gan bob un ohonynt o leiaf ddegawd o brofiad yn y diwydiant canolfannau cyswllt.

Ar ben hynny, mae'r hyfforddiant wedi'i ariannu gan yr asiantaethau a'r sefydliadau sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r bobl ddi-waith, ac nid gan sefydliadau'r canolfannau cyswllt.

Dyma eich ymrwymaid chi

Holl bwrpas partneriaeth megis Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru yw rhannu'r llwyth. Ar eu hochr hwy, mae'r asiantaethau cyflogaeth a'r sefydliadau elusennol yn canfod y recriwtiaid ac yn ariannu eu hyfforddiant. Yn gyfnewid am hynny, rydym yn disgwyl i'n partneriaid yn y sector canolfannau galwadau warantu cyfweliadau am swyddi i'r rhai sy'n cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus. Nid oes rheidrwydd i chi gyflogi ynrhyw weithiwr o'u plith, ond rydym yn disgwyl i chi roi bob cyfle iddynt eu profi eu hunain i chi, a'ch argyhoeddi o'u gwerth i'ch sefydliad.

A yw eich busnes chi'n gymwys?

Mae unrhyw gyflogwyr canolfannau cyswllt o unrhyw faint sy'n gweithredu yng Nghymru ac sydd a swyddi gwag rheng flaen cyfredol yn gymwys i ymuno a Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru.

Rydym hefyd yn annog sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ddi-waith yng Nghymru i ymuno a ni fel rhanddeiliaid.

 

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhestr Wirio Rhaglen
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Nac Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru