Mae un o fusnesau allforio Prydain sy'n tyfu gyflymaf yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r sector addysg uwch, wrth iddo gryfhau ei sylfaen sgiliau ar gyfer ehangu pellach.

Sgiliau yw’r tonic gorau wrth i arbenigwyr trin cyffuriau gynllunio ar gyfer twf

Biotec

Mae Biotec Services International o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n arbenigo mewn storio a dosbarthu cyflenwadau o gyffuriau tymheredd-reoledig ar gyfer treialon clinigol rhyngwladol, yn cyflogi ychydig dros 60 o bobl gyda bron hanner ohonynt yn raddedigion.

Mae hyn yn gynnydd saith gwaith drosodd ers 2005, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r trosiant hefyd wedi cynyddu'n aruthrol, o £600,000 y flwyddyn i bron i £10 miliwn.

Mae'r tîm yn Biotec yn rhedeg ymgyrch fyd-eang a reolir yn llym, gan gyflenwi samplau wedi’u labelu'n a’u codio’n ofalus ar gyfer treialon cyffuriau hanfodol mewn dwsinau o wledydd ar draws pum cyfandir. Caiff y gweithgaredd hwn ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith bod rhaid i sypiau o samplau prawf hefyd gynnwys plasebos a chyffuriau cystadleuwyr sydd eisoes ar y farchnad.

Rhydd y cwmni bwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau ei bobl i ateb yr heriau hyn, yn enwedig sgiliau rheoli prosiect drwy’r holl weithgareddau.

Er mwyn cryfhau sgiliau o'r fath ymhellach, mae’r cwmni’n gweithio’n agos â'r sector addysg uwch. Er enghraifft, penodwyd Uday Pathapati, un o raddedigion MSc Prifysgol Abertawe mewn rheolaeth a chyllid, fel rheolwr prosiect yn dilyn lleoliad 10 wythnos o dan y rhaglen GO Wales.

Mae GO, sy'n sefyll am ‘Graduate Opportunity’, yn ariannu graddedigion i ymgymryd â phrosiectau mewn busnesau yng Nghymru er mwyn adeiladu eu profiad a rhoi budd eu hyfforddiant academaidd i’r busnesau dan sylw. Cynhaliodd Uday brosiect i symleiddio prosesau ariannol y cwm a gwnaeth gymaint o argraff ar ei benaethiaid fel iddo sicrhau swydd barhaol iddo’i hun.

Mae'r cwmni hefyd wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda’i recriwtio. Hyd yn hyn mae wedi penodi pum aelod o staff drwy raglen Twf Swyddi Cymru. Yn dilyn lleoliadau chwe mis, pryd yr ariannwyd eu cyflogau gan Lywodraeth Cymru, cawsant eu penodi gan y cwmni i amrywiaeth o swyddi allweddol yn ei dîm sy'n tyfu.

Fel busnes sydd ar reng flaen y sector fferyllol rhoi contractau allanol, rydyn ni'n tyfu a datblygu'n barhaus sy'n golygu ein bod angen rhagor o gyflogeion â setiau penodol o sgiliau. Mae'r rhaglen GO Wales wedi caniatáu inni recriwtio'r fath ymgeiswyr gyda phriodoleddau cryf, yn caniatáu i Biotec Services atgyfnerthu ei nod strategol

Bu Biotec, sy'n cael 85% o'i fusnes o dramor ac sy’n gweithio drwy rwydwaith byd-eang o 24 depo cymeradwy, hefyd yn adeiladu sgiliau ei reolwyr uchelgeisiol fel y gallant gynnal y gweithgaredd byd-eang hwn. Er mwyn hogi eu sgiliau arwain a rheoli, mae Biotec wedi defnyddio'r cwrs LEAD a ddarperir gan Brifysgol Abertawe.

Er mwyn cryfhau sgiliau ar draws gweddill y gweithlu - gan gynnwys ar lefel goruchwylwyr a gweithredwyr – mae’r cwmni bellach yn cynnal trafodaethau â Phrifysgol Blaenau'r Cymoedd i ddylunio cyrsiau dysgu cwmni-benodol.

Meddai prif weithredwr y cwmni, Keren Winmill: "Rydym wedi hyfforddi llawer o bobl yn fewnol, ond yr ydym yn edrych fwy ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda darparwyr sgiliau allanol. Mae hyn yn arbennig o wir ym maes rheoli prosiectau, sy'n hanfodol i'n diwydiant.”

Disgwylir i angen y cwmni i wella sgiliau ei staff barhau i dyfu, wrth iddo barhau i ehangu a manteisio ar gyfleoedd newydd yn y farchnad mewn meysydd soffistigedig megis treialon cyffuriau oncoleg, ymchwil i gelloedd bonyn, a therapïau genynnau.


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen