Drwy fynd yr ail filltir i fuddsoddi yn nyfodol ei staff, mae cadwyn fwytai Dylan’s yn y gogledd wedi creu gweithlu medrus a brwdfrydig - ac wedi gwneud llawer i herio’r safbwynt bod meithrin gyrfa yn y diwydiant lletygarwch yn un anodd.

Mae tîm rheoli Dylan’s wedi gweithio’n galed i drwytho’r staff yn y gred bod swydd ym maes lletygarwch gystal ag unrhyw fath arall o swydd a’i bod yn cynnig rhagolygon hirdymor cyffrous. Mae creu Tîm Datblygu Pobl wedi bod yn hanfodol yn hyn o beth, gan ddarparu pob un o 120
a mwy o staff Dylan’s â rhaglen gynnydd wedi’i theilwra - gan annog pawb i freuddwydio’n fawr a chyrraedd eu nod.

Nodwedd arall o fywyd yn Dylan’s yw lefel y cymorth sy’n cael ei gynnig. Trefnir cyfarfodydd un i un rheolaidd, gan roi cyfle i reolwyr wneud yn siwˆr bod eu staff yn fodlon ac er mwyn dysgu beth yn fwy y gellid ei wneud i helpu eu datblygiad. Fel rhan o hyn, mae llawer o unigolion yn cael cymorth ariannol i fynd i’r coleg neu i fynychu hyfforddiant arbenigol - rhywbeth sydd o fudd i bawb gan ei fod yn golygu bod pobl yn dod yn ôl gyda sgiliau newydd y gallan nhw eu rhannu ag aelodau eraill y tîm.

“Y llynedd cawsom wobr aur Buddsoddwyr mewn Pobl. Teimlai fel sêl bendith i’r hyn roedden ni’n ei wneud o ran datblygiad ein staff ac mae wedi bod yn hwb cyffrous iawn i’r dyfodol.”
David Evans, Cyfarwyddwr, Dylan’s


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen