Drwy fuddsoddi’n llwyr yn ei staff ar bob cam o’u gyrfaoedd, mae purfa olew Valero yn Sir Benfro wedi creu diwylliant gwaith sy’n destun eiddigedd - gan roi pob cyfle i’r cwmni allu mwynhau llwyddiant i’r blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod.

Gyda 525 o staff llawn amser yn ei safle ym Mhenfro, mae Valero yn gyflogwr sylweddol yn y gorllewin - ac mae’n ymfalchïo yn ei drosiant staff isel sy’n adrodd cyfrolau am foddhad y staff. Twriwch ychydig ymhellach ac fe ddaw’n glir mai awydd y cwmni i greu amgylchedd lle mae pob aelod staff yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi sydd wrth wraidd y teimlad positif hwn.

Does dim ots beth yw oedran na lefel y gweithiwr, mae Valero yn darparu 
cyfleoedd datblygu a hyfforddi niferus. Mae pob gweithiwr yn cael cymorth i astudio ar gyfer cymwysterau hyd at lefel Meistr; mae prentisiaid yn cael arian ychwanegol fel y gallan nhw ddysgu am gyfnod hirach; mae’r peirianwyr ifanc gorau yn cael eu hanfon i bencadlys y cwmni yn Texas i gael hyfforddiant ym maes rheoli, ac mae stiwdio wedi ei sefydlu ar y safle i greu deunyddiau dysgu arbenigol. Heb os, mae’r dyfodol yn un disglair.

“Dod o hyd i bobl gwerth chweil, eu hyfforddi a’u gwobrwyo ac yn y pen draw, eu cadw – dyna sy’n bwysig i ni.” Robert Weeks Cydgysylltwr Datblygu, Valero


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen