Tree Frog Creative

Sefydlwyd Tree Frog Creative ym mis Rhagfyr 2011 gan Chris a Karen Grice er mwyn helpu i gynyddu eu cwsmeriaid drwy fusnes ar-lein, ond mewn ffordd foesegol sy'n cael effaith gadarnhaol ar y sefydliadau y maent yn gweithio â nhw a chymunedau lleol.

Mae brwdfrydedd Chris am hyfforddiant yn deillio o'i gyfnod yn ei arddegau yn gweithio fel aelod iau o dîm a oedd yn gweithio ar y we. Daeth i ddeall pwysigrwydd dysgu seiliedig ar waith mewn diwydiant a oedd yn datblygu o hyd. 

Wrth gydweithio'n agos â Choleg Cambria, mae'n annog dau brentis y cwmni i ddatblygu sgiliau drwy hyfforddiant a chymwysterau ffurfiol a chefnogaeth arloesol barhaus gan diwtoriaid. Mae'n eu hannog hefyd i ysgogi eu hunain i ddatblygu.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid tuag at ran o gostau'r hyfforddiant a'r asesiadau, sy'n golygu nad ydych ar eich colled yn ariannol wrth i chi roi amser i fentora'r prentis a'i hyfforddi yn y sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes,” meddai Chris.

“Rydym yn credu bod yr amser hwnnw sy'n cael ei dreulio yn hyfforddi, arwain, a thiwtora eich prentis yn talu ar ei ganfed, oherwydd bod y cymwysterau a'r profiad y maent yn eu xael yn helpu eich busnes i ddatblygu'n fwy cynhyrchiol a chystadleuol yn yr hirdymor.

"Rydym wedi profi twf o 50% yn flynyddol ers sefydlu'r cwmni, ac rwy'n hyderus bod y gwaith ehangu wedi digwydd yn bennaf oherwydd recriwtio prentisiaid ymroddgar a hyblyg, sydd wedi cael eu hyfforddi a’u hannog gennym ni i fodloni anghenion ein busnes".

.