Urdd Gobaith Cymru

Nod yr Urdd yw sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.

Mae Cynllun Prentisiaeth Urdd Gobaith Cymru yn rhoi cyfle i unigolion dros 17 mlwydd oed i weithio a hyfforddi yn y sector chwaraeon ac awyr agored. Mae ein prentisiaid yn ymgymryd â swydd go iawn o fewn adran chwaraeon yr Urdd neu yn un o’m Wersylloedd enwog. Mae’r Prentisiaid yn derbyn hyfforddiant NVQ, gyda’r Prentisiaid yn dilyn fframwaith Lefel 2 Arwain Gweithgareddau yn y flwyddyn gyntaf, ac yn cael y cyfle i ddilyn fframwaith Lefel 3 Datblygu Chwaraeon yn yr ail. Maent hefyd yn derbyn nifer fawr o hyfforddiant ychwanegol mewn nifer o gampau chwaraeon ac awyr agored. Mae’r prentisiaid yn cael eu lleoli o fewn adrannau chwaraeon lleol yr Urdd, gydag eraill yn byw yn ein Gwersylloedd ac yn cael y cyfle i brofi byw oddi cartref gyda’i chyd brentisiaid.
 
Yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018, fe wnaeth yr Urdd cyhoeddi y maent yn anelu at gynnig 100 o brentisiaethau erbyn dathliadau’r mudiad yn gant.