Yn Gefn i Chi

Busnes Cymru

Llenwch ffurflen mynegi diddordeb a bydd ein cynghorwyr arbenigol yn cysylltu â chi.

COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB


Cyflwyniad

P'un a ydych am helpu eich gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn fuddiol i'ch busnes neu ychwanegu talent newydd i'ch tîm, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig llawer o raglenni drwy'r a all gefnogi eich anghenion o ran sgiliau, hyfforddiant a recriwtio.

Gallwch weld yr holl raglenni sydd ar gael isod neu os nad ydych yn siŵr am beth rydych chi’n chwilio, beth am gysylltu â ni? Bydd ein Cynghorwyr Ymgysylltu â Chyflogwyr yn trafod eich gofynion ac yn argymell rhaglen sy'n iawn i chi a'ch busnes.

Darganfod mwy


Eisiau helpu eich gweithwyr i gyrraedd eu potensial llawn a rhoi hwb i’ch busnes ar yr un pryd?

Gwarant i Bobl Ifanc

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i bawb dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig

RHAGOR O WYBODAETH YMA

Twf Swyddi Cymru +

Manteisiwch ar gronfa o frwdfrydedd i ddod o hyd i rywun sy'n iawn i'ch busnes.

ReAct+

Manteisiwch ar fynediad at bobl gyda’r profiad cywir ac yn barod am waith.

Prentisiaethau

Trawsnewidiwch eich busnes drwy gynnig llwybr i ddod o hyd i dalent newydd.

Cyfrif Dysgu Personol

Helpwch eich staff presennol i gael y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes drwy gwrs coleg hyblyg am ddim.

DARGANFYDDWCH FWY YMA

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Uwchsgiliwch eich gweithlu yn y meysydd digidol, allforio, peirianneg a gweithgynhyrchu, diwydiant creadigol, a thwristiaeth a lletygarwch

Cronfa Ddysgu Undeb Cymru (WULF)

Dyma gyfle i weithio gydag undeb llafur i ddatblygu cynllun hyfforddi tair blynedd, sy'n canolbwyntio ar wella datblygiad yn y gweithle, dysgu a sgiliau hanfodol eich staff – gyda phwyslais arbennig ar ddileu rhwystrau i bobl nad ydynt yn ddysgwyr traddodiadol.

DARGANFYDDWCH FWY YMA

Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Er mwyn canfod sut i gael mynediad at gronfa eang o dalent amrywiol sy’n arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant, creadigrwydd ac elw, siaradwch â’n Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl. Gallent roi cymorth i chi ar ddatrysiadau syml i’ch helpu i recriwtio a chadw pobl anabl talentog a sgilgar.

DARGANFYDDWCH FWY YMA

Cymru Iach ar Waith

Mae Cymru Iach ar Waith yn helpu cyflogwyr, unigolion ac amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol i gefnogi pobl o oedran gweithio yng Nghymru i gadw'n heini ac yn iach fel y gallant aros yn eu swyddi, neu ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn cyfnod o salwch.

DARGANFYDDWCH FWY YMA


Eisiau denu talent newydd i'ch busnes?

Mynediad i Waith

Mae gan bob un ohonom yr hawl i weithio. Gallwch gael grant i helpu gyda’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â’r rhwystrau a wynebir gan berson anabl mewn gwaith. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu cyngor ymarferol i fusnesau sy'n dymuno cyflogi pobl anabl.

DARGANFYDDWCH FWY YMA

Cymunedau am Waith+

Os ydych yn gyflogwr sy’n dymuno recriwtio neu ehangu eich gweithlu gyda staff brwdfrydig sydd â’r sgiliau a hyfforddiant priodol, gall Cymunedau am Waith+ Llywodraeth Cymru eich helpu chi.

DARGANFYDDWCH FWY YMA

GO Wales – Cyflawni drwy Brofiad Gwaith

Gallai darparu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr ifanc fod yn ffordd ddelfrydol o ddenu staff ifanc ac awyddus i'ch busnes.

DARGANFYDDWCH FWY YMA

Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith yn darparu mynediad cyflym at therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a gwasanaethau therapi seicolegol, y cwbl wedi’i deilwra i’r unigolyn. Cynlluniwyd y rhain i helpu pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i'r gwaith neu reoli cyflwr iechyd yn y gwaith o ganlyniad.

DARGANFYDDWCH FWY YMA

Y Gwasanaeth Di-waith

Mae'r Gwasanaeth Di-waith yn darparu cymorth mentora gan gymheiriaid a chefnogaeth â chyflogadwyedd i bobl sy'n gwella o gamddefnyddio sylweddau a/neu salwch meddwl i ymbaratoi ar gyfer byd gwaith.  Gall cyflogwyr fanteisio ar dri mis o gyngor a chymorth gan fentoriaid os ydynt yn cyflogi rhywun a atgyfeirir gan y gwasanaeth. 

DARGANFYDDWCH FWY YMA

Bwletin Swyddi

rhannwch fanylion unrhyw swydd wag sydd gennych ar hyn o bryd gyda Cymru'n Gweithio, a gall ei rhestru ar ei fwletin swyddi.

DARGANFYDDWCH FWY YMA