Busnes Cymdeithasol Cymru

Croeso i wefan Busnes Cymdeithasol Cymru. Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth dechnegol ar gyfer y rhai ohonoch sy'n ystyried dechrau neu weithredu busnes cymdeithasol. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr. Trwy ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â chymorth gan ein cynghorwyr busnes arbenigol, byddwch ar y llwybr i lwyddiant mewn busnes cymdeithasol.

BUSNESAU CYMDEITHASOL AROBRYN YNG NGHYMRU

Mae busnesau cymdeithasol yn rhan bwysig a dynamig o economi cymru. Maent yn darparu swyddi da, yn nes at gartref, lle y mae ar gymunedau eu hangen. Mae busnesau cymdeithasol yn gweithredu mewn modd ymarferol i fynd i'r afael â materion lleol, a hynny trwy fasnachu ac yna ailfuddsoddi'r incwm y maent yn ei ennill yn y pethau sy'n bwysig iddynt.
Mae'r fideos isod yn dangos rhai o'r busnesau cymdeithasol hynod o lwyddiannus sy'n gweithredu yng nghymru, ac yn rhoi enghreifftiau o'r amrywiaeth fawr o fentrau sy'n gweithio i sicrhau effaith gadarnhaol yn eu cymunedau.

Splash Community Trust

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash ar ôl cau Canolfan Plas Madoc ym mis Ebrill 2014. Trwy gefnogaeth y gymuned, llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i achub y Cyfleuster Hamdden. Yn y tair blynedd ddiwethaf, maent wedi gweddnewid cyfleuster a gaewyd ac yr oedd disgwyl iddo gael ei ddymchwel, i fod yn ganolfan hamdden a chanolfan gymunedol ffyniannus a phoblogaidd.

Too Good To Waste

Mae Too Good to Waste yn gweithredu busnes ailddefnyddio dodrefn ac offer trydanol yng nghanol cymoedd De Cymru. Mae’n cynnig gwasanaeth am ddim i gasglu dodrefn ac eitemau amldro trydanol ac eitemau’r cartref sy’n cael eu perchnogi’n barod o gartrefi preswyl a busnesau, ac yn dosbarthu’r rhain trwy ei ystafelloedd arddangos yn Ynyshir ac Aberdâr.

Natural Weigh

Siop dim gwastraff sy’n gwerthu bwydydd sych, cynhyrchion glanhau a chynhyrchion ffordd o fyw o ansawdd uchel yw Natural Weigh Ltd. Eu cenhadaeth yw lleihau pecynnau plastig a ddefnyddir unwaith trwy gynnig cyfle i gwsmeriaid siopa heb becynnau. Mae cwsmeriaid yn dod â chynwysyddion amldro i’r siop i’w llenwi â chynhyrchion o’r siop.

Antur Waunfawr

Sefydlwyd Antur Waunfawr yng Ngwynedd ym 1984 a’i nod yw darparu cyfleoedd gwaith a chymorth i oedolion ag anableddau dysgu tra’n hyrwyddo iechyd a lles. Erbyn hyn, mae’r cwmni’n cyflogi dros 90 o staff ac yn cynorthwyo dros 60 o oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Skye Instruments

Mae Skye Instruments yn dylunio a gweithgynhyrchu offerwaith electronig ar gyfer monitro amgylcheddol, astudiaethau newid yn yr hinsawdd, ymchwil planhigion, cnydau a llystyfiant a chymwysiadau synhwyro o bell. Mae sylfaenwyr Skye Instruments Ltd, sef John a Gill Wilde, wedi penderfynu trosglwyddo perchnogaeth y Cwmni i’r Gweithwyr. 

Empower – Be The Change

Mae Empower – Be The Change yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau lleol a chenedlaethol i gyflwyno rhaglenni pwrpasol sy’n cynyddu hyder, cymhelliant, annibyniaeth a hunanreolaeth pobl. Trwy wneud hynny, maent yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â materion yn ymwneud â thlodi, cydlyniad cymdeithasol, lles, mynediad a chyrhaeddiad ar draws pob agwedd ar ddysgu.


 

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cymorth un-i-un dwys i fusnesau cymdeithasol ledled Cymru sydd am ehangu neu greu swyddi.

Ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

 

Ffynonellau cymorth eraill i fusnesau cymdeithasol - mae amrywiaeth o ddarparwyr cymorth sy'n arbenigo mewn cymorth i fusnesau cymdeithasol.

Chwiliwch am restr o ddarparwyr cymorth

 

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Fe'i cyflwynir gan Cwmpas.

Ewch i wefan Cwmpas


Latest events

There are currently no events available.

See all events

Latest updates from Social Business Wales

Skip to content

Latest updates from Business Wales

Skip to content