Yn amlwg, ail-fuddsoddi eich elw argadwedig yn y busnes yw’r math gorau posibl o gyllid.

Os yw’ch menter chi’n gwneud elw, gall ei ail-fuddsoddi er mwyn gwella proffidioldeb, cynhyrchaeth neu effeithlonrwydd ymhellach a bydd yn cryfhau’r fantolen. Bydd hyn yn cynyddu gwerth y busnes heb ymrwymo rhwymedigaethau.


Fformiwla elw argadwedig 

Cyn llunio strategaeth fuddsoddi sy’n dibynnu’n ormodol ar ail-fuddsoddi, ailystyriwch a diystyriwch y sail i’ch rhagolygon elw. Os menter newydd yw hon, beth yw lefel hyder y rhagamcaniadau?                      

Ychydig iawn o fentrau sy’n gwneud elw yn ystod dwy neu dair blynedd gyntaf y masnachu. Treulir yr amser hwn fel arfer yn dysgu’r fasnach ac yn dod o hyd i’r farchnad. Mewn gwirionedd, mae llawer o fentrau’n methu yr union bryd y maent yn profi bod ganddynt gynnyrch, marchnad a photensial i wneud elw, a hynny’n syml am nad oes ganddynt gyfalaf gweithio. 

Gall mentrau aeddfetach edrych yn ôl ar eu record eu hunain o elw gwirioneddol yn erbyn elw a ragfynegwyd a seilio eu hamcangyfrifon ar y patrwm sy’n dod i’r amlwg. Gan ddechrau gyda brwydr am i fyny drwy bwynt adennill costau (yr adeg neu nifer yr unedau a werthir lle daw’r busnes yn ariannol ddichonadwy a’r refeniw’n gywerth â’r cyfanswm costau) dros dair neu bedair blynedd, mae’r patrwm yn symud ymlaen wedyn i ychydig bach o elw ond elw sy’n raddol wella.        


Manteision ac anfanteision elw argadwedig                                   

Bydd angen ichi benderfynu pa lefel o elw i’w ail-fuddsoddi wrth ichi ei gynhyrchu. Rhannu elw yw un o’r ffyrdd y mae mentrau’n cyfiawnhau eu bodolaeth ac yn cadw ffyddlondeb aelodau. Os byddwch yn ail-fuddsoddi 100% am byth, ni cheir byth unrhyw wobr ariannol am berfformiad da.

Mae cyllido unrhyw fusnes yn llwyr o elw argadwedig yn ffordd ddoeth o weithredu busnes. Fodd bynnag, gall ei gwneud yn amhosibl manteisio ar rai cyfleoedd, gan eich gorfodi i wrthod y cyfle i gynyddu proffidioldeb ac adenillion ariannol neu gymdeithasol.  

Er enghraifft, efallai bydd buddsoddi mewn peiriant a fydd yn eich galluogi i gynhyrchu dwywaith cymaint am yr un llafur yn golygu y bydd yn talu am ei hun ymhen blwyddyn. Bydd hyn yn arwain wedyn at fwy o drosiant a fydd yn rhoi hwb i elw. Heb ddigon o elw argadwedig, ni fyddai’n bosibl manteisio ar y cyfle rhagorol hwn heb ddefnyddio mathau eraill o gyllido.                            


Archwiliwch ragor o ffynonellau cyllid i’ch busnes cymdeithasol.