Beth yw’r gwahaniaeth rhwng stociau a bondiau?

Mae stoc benthyg yn fath o ddyled sy’n rhannu nifer o nodweddion gyda buddsoddiad risg. Stoc ydyw a roir gan eich busnes yn ernes yn erbyn benthyciad. Yn union fel benthyciadau eraill, mae’n ennill llog ac yn rhoi rheolaeth ar y cyfranddaliadau i’r sawl sy’n rhoi benthyg nes i’r benthyciad gael ei ad-dalu.

Mae bond yn addewid ysgrifenedig a llofnodedig i dalu swm penodol o arian ar ddyddiad penodol, neu pan fodlonir amod penodol. Mae pob cytundeb benthyciad a chontract wedi’u dogfennu yn fondiau. Yn draddodiadol, mae bondiau’n cael eu masnachu rhwng perchenogion am bris y cytunwyd arno, ond mewn busnes cymdeithasol, maent yr un fath â stoc benthyg i bob pwrpas.

Nid yw stoc benthyg a bondiau yn rhoi unrhyw ddweud mewn gweithredu’r busnes. Fel mathau eraill o gyllid dyled, gellir eu sicrhau yn erbyn asedau cyfalaf neu warantau personol.


Beth yw manteision stoc benthyg a bondiau?

Mewn cwmni cyfyngedig drwy warant lle nad oes unrhyw gyfalaf cyfranddaliadau, mae stoc benthyg a bondiau’n ddefnyddiol oherwydd fe’u hystyrir yn lled-ecwiti. Fel buddsoddiadau tymor hir, maent yn cefnogi cyllido’r busnes yn hytrach na chael eu hystyried yn atebolrwydd y mae’n rhaid ei dalu’n ôl cyn hir i’r buddsoddwr.

Defnyddir stoc benthyg yn aml gan fentrau a ffurfiwyd gyda diben cymdeithasol clir o fudd cymunedol. Mae stoc benthyg yn llwybr cost isel i fuddsoddiad graddfa fechan gan gefnogwyr, ond mae’n siŵr nad yw wedi’i defnyddio’n ddigonol gan fentrau’n gyffredinol.  
Mae stoc benthyg yn ddelfrydol ar gyfer buddsoddiad moesegol pendant iawn am nad oes cyngor cyfreithiol yn ofynnol i’w rhyddhau, ac felly mae ar gael i sefydliadau llai o faint. Efallai bydd angen cyngor cyfreithiol ar gyfer materion mwy o faint a chymhlethach. Bob tro y bydd stoc benthyg yn cael ei rhyddhau, dylid nodi:

  • mwyafswm y gellir ei roi  
  • dyddiad aeddfedu clir (sy’n cael ei alw weithiau’n ‘ddyddiad cau’) 
  • cyfradd llog (neu ddatganiad clir nad oes llog o gwbl yn daladwy neu sut bydd y llog yn cael ei gyfrifo) 

Mae mwy o densiwn dan sylw wrth gymryd arian pobl go iawn a gamblo ag ef, yn fwy na’r tensiwn a geir wrth gymryd arian sefydliad ariannol a gamblo ag ef. Mae hwn yn fater o bendantrwydd ac yn arwydd clir fod angen ichi gael rhagamcaniad ariannol a chynllun busnes credadwy. 


Buddsoddwyr stoc benthyg 

Mae gan lawer o bobl fuddiant dilys mewn sefydlu, datblygu neu dyfu menter. Mae’r rhain yn cynnwys cwsmeriaid posibl sy’n chwilio am ffynhonnell gyflenwi newydd neu amgen, cyflenwyr posibl sy’n chwilio am farchnad, partneriaid prosiect posibl sy’n chwilio am gynghreiriad cryf. Byddai llawer o bobl eraill yn croesawu cyfle i wneud buddsoddiad ar ychydig bwyntiau gwell o gyfradd adennill nag y byddai banc yn ei chynnig, gan gefnogi menter leol a phobl leol hefyd.        

Yn enwedig wrth ymdrin â phobl â chysylltiad personol, mae’n bwysig ymdrin â phethau ar sail broffesiynol a chadw cofnodion priodol. Nid benthyciadau meddal mo benthyciadau meddal os yw’r sawl sy’n rhoi benthyg yn credu bod ganddo hawl i ofyn am yr arian yn ôl am fod y Nadolig yn nesáu?