Mae benthyciadau banc  safonol a benthyciadau gan deulu a ffrindiau yn eich galluogi i fenthyca arian am gyfnod penodol yn erbyn cyfradd llog. Fel arall, gallwch gael cyllid gan sefydliadau sy’n anelu at helpu busnesau i ddechrau a thyfu.

Dysgwch fwy am y rhai sy’n rhoi benthyg i fusnesau cymdeithasol.

Benthyciadau buddsoddiad cymdeithasol

Gall benthycwyr cymdeithasol ofyn am warantau ar y cyd ac yn unigol gan Gyfarwyddwyr. Golyga hyn eu bod yn cael benthyg arian gan y sawl â’r asedau mwyaf ar ddim llog ac yn rhoi ei fenthyg i’r fenter ar gyfradd llog dda.    

Nid yw rhai benthycwyr cymdeithasol yn gofyn am y gwarantau hyn os yw’r cynllun busnes yn ddigon cryf. Nid yw eraill yn gofyn am warantau personol fel mater o egwyddor.

Rhowch sylw gofalus i gost cynnal a chadw ac ad-daliadau cynnar yn eich cytundeb benthyciad. A ydy’r llog misol yn seiliedig ar y balans sy’n weddill i’w dalu neu’r swm cyfalaf gwreiddiol a fenthycoch chi? Bydd y cyntaf yn llawer rhatach, ond gall rhai benthyciadau a gytunir gael eu gosod yr ail ffordd, a chostio mwy o ganlyniad ichi. Felly, darllenwch y cytundeb benthyciad yn ofalus cyn ei lofnodi.    


Llwythwch i lawr ein canllaw i ymgeisio am fenthyciadau: