Big Click

Girl using tablet and another one playing with robot

Enillydd ‘Seren y Dyfodol’ Menter Gymdeithasol y DU 2015

  • 32,000 o lawrlwythiadau o’r apiau addysgol
  • Mae’n cynnal clybiau technoleg ar gyfer dros 400 o blant yng Nghwm Rhondd

  • Mae Big Click yn gwerthu ei gynhyrchion ap ei hun ar-lein, gan wneud y mwyaf o’i gyfle i gynhyrchu incwm mewn ffyrdd arloesol, a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfan gwbl gynaliadwy fel menter gymdeithasol.

Mae Big Click, sy’n rhan o Bartneriaeth Penrhys, yn asiantaeth datblygu apiau yn y Rhondda, sy’n meithrin doniau ifanc yng Nghymru. Mae ei lwyddiant yn y gymuned leol wedi arwain at gydweithio gyda mentrau cymdeithasol eraill a busnesau’r sector preifat i ennill contractau proffil uchel.

“Gan fod gennym berthynas gref gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru, yn naturiol, cysylltom â Busnes Cymdeithasol Cymru i gael cyngor ar ffurfio menter gymdeithasol newydd er mwyn parhau â’r gwasanaeth ar ôl i’r cyllid ddod i ben. Cawsom gymorth i ysgrifennu cynllun busnes, yn ogystal â chyngor ar ymchwil i’r farchnad i sicrhau ein bod ni’n dechrau ar y model busnes â’n llygaid ar agor. Maen nhw wedi hefyd wedi bod yn gefnogwyr brwd i’n menter, yn ein helpu i godi ein proffil sydd, yn y pen draw, wedi arwain at gyfleoedd busnes newydd.“

Ben Treharne-Foose, Rheolwr Technolegau Digidol, Big Click

Male with tablet and robot

Yn aml, mae ehangu’n digwydd yn organig, ond bydd hynny’n golygu heb gynllunio priodol, diwydrwydd a dadansoddiad risg, yna gall arwain at drafferth. Os yw’ch busnes eisiau cynyddu trosiant neu ehangu ei wasanaethau i faes neu farchnad newydd, gall Busnes Cymdeithasol Cymru helpu.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru