Yn 2016, dechreuodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ystyried ffyrdd o arallgyfeirio ei incwm a denu mwy o ymwelwyr i’r ardd. Pan benderfynodd ffurfio partneriaeth â chanolfan adar ysglyfaethus i greu atyniad adar newydd, galwodd ar Fusnes Cymdeithasol Cymru i’w helpu i froceru’r fargen.

Pam?

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn atyniad ymwelwyr ac yn ganolfan ymchwil a chadwraeth fotanegol. Mae wedi’i lleoli yn Sir Gâr, ac mae’n elusen sy’n croesawu ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn. Er ei bod yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae’n cynhyrchu cyfran o’i hincwm trwy weithgareddau masnachol fel gwerthu tocynnau a llogi ystafelloedd.

Yn 2016, datblygodd y sefydliad strategaeth arallgyfeirio incwm newydd, oedd yn cynnwys cynlluniau i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Yn sgil hynny, penderfynodd weithio ar y cyd â Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain Fawr Cyf. i sefydlu tŷ adar yn yr Ardd o’r enw Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain.

Cysylltodd Rheolwr y Prosiect, sef Helen John, â Busnes Cymdeithasol Cymru i gael help i sefydlu’r bartneriaeth newydd hon. Yn benodol, roedd angen help arni i gynnal ymarfer rhagolygon ariannol manwl i edrych ar ba mor ymarferol oedd y gweithgaredd masnachu hwn, a datblygu cytundeb partneriaeth cydweithredol ffurfiol.

Sut?

Comisiynodd Busnes Cymdeithasol Cymru gymorth â rhagolygon ariannol a roddodd dystiolaeth y byddai hwn yn weithgaredd masnachu hyfyw. Hefyd, darparodd gyngor a chymorth cyfreithiol i ddatblygu cytundeb cydweithredol ffurfiol rhwng Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain Fawr Cyf.

Effaith

Agorwyd Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn ystod haf 2018, â’i nod yw rhoi cyfle i bawb ryngweithio â’r adar ysglyfaethus sydd i’w gweld yn y DU a dysgu amdanynt a, thrwy wneud hynny, ysbrydoli cymunedau i sicrhau eu bod yn goroesi.

Mae’r atyniad wedi helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn yr Ardd, yn ogystal â helpu i ddenu cynulleidfa iau na fyddai diddordeb ganddyn nhw efallai mewn ymweld cyn lansio’r atyniad.

Crëwyd dwy swydd amser llawn o ganlyniad i hyn, a disgwylir y bydd dwy arall yn cael eu creu yn y flwyddyn nesaf.

Gallwn helpu eich busnes hefyd

Llenwch y ffurflen hon a dywedwch wrthym am eich nodau busnes a byddwn yn dweud wrthych sut y gallwn helpu.