Buddsoddiad cymunedol (neu gyfranddaliadau cymunedol) yw’r buddsoddiad gan aelodau cyffredin o’r cyhoedd mewn mentrau yr hoffent eu cefnogi.

Fel rheol, mae’r rheini sy’n buddsoddi yn y mentrau cymdeithasol yn debygol o ddod yn aelod gyfranddalwyr a chanddynt rôl lywodraethu. Os nad all eich busnes cymdeithasol dderbyn yr ymglymiad cymunedol hwn wrth lywodraethu, dylech edrych ar ddulliau cyllido eraill.


Enghreifftiau o gyfranddaliadau cymunedol

Yn ddiweddar, cafwyd cryn gynnydd mewn defnyddio cyfranddaliadau cymunedol ar draws amrywiol sectorau. Mae hyn yn cynnwys busnesau cymdeithasol lleol fel siopau a thafarndai sy’n eiddo i’r gymuned, adeiladau ac asedau cymunedol, yn ogystal ag amaethyddiaeth, ffermio a choetir. Mae mentrau ar raddfa fwy, fel prosiectau ynni adnewyddadwy, hefyd wedi ennill buddsoddiad cymunedol yn ddiweddar.


Cymhellion am fuddsoddiad cymunedol 

Mae gan bobl amrywiaeth o resymau dros fuddsoddi mewn cyfranddaliadau cymunedol. Yn aml, byddant yn gwneud hynny i achub neu greu ased defnyddiol i’w cymuned, neu i gyflawni canlyniad dymunol, fel cynyddu ynni gwyrdd.                         
Er nad yw benthycwyr cymunedol fel rheol yn buddsoddi er elw ariannol, mae adenillion ar eu cyfalaf a’r amrywiol ostyngiadau sydd ar gael yn y dreth yn eu cymell ymhellach i fuddsoddi mewn busnesau cymdeithasol.      


Strwythurau cyfreithiol ar gyfer busnesau buddsoddiad cymunedol 

Cymdeithasau Cofrestredig yw bron pob busnes buddsoddiad cymunedol. Mae busnesau sy’n mabwysiadu’r fformat cyfreithiol hwn yn cael eu hesgusodi rhag llawer o ddarpariaethau cyfyngol Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Strwythurau democratig yw’r rhain, sy’n cynnig 'Cyfranddaliadau y Gellir eu Tynnu Allan' nad ydynt yn cynyddu mewn gwerth ac nad ellir eu masnachu na’u gwerthu ymlaen.


Canllaw i fuddsoddiad cymunedol 

Mae prosiect Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru a gyflenwir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru yn cynnwys canllawiau cynhwysfawr, astudiaethau achos ac adnoddau eraill ar fuddsoddiad a chyfranddaliadau cymunedol. Porwch ei  Llawlyfr Cyfranddaliadau Cymunedol i gael gwybod rhagor.    


Archwiliwch ragor o ffynonellau cyllid i’ch busnes cymdeithasol.